Ewch i’r prif gynnwys

Dr Catrin Wood

Ymunodd Catrin Wood â’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn 2019 ac mae hi wedi gweithio yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, a’r tîm profiad myfyrwyr cyn symud i’w swydd bresennol yn Swyddfa Pennaeth yr Ysgol ym mis Ionawr 2024.

Mae gwaith Catrin yn canolbwyntio ar gefnogi Uwch Dîm Rheoli COMSC. Mae hi’n goruchwylio gwaith swyddfa Pennaeth yr Ysgol o ddydd-i-ddydd, ac yn cynnig cefnogaeth ble bo angen i’r Uwch Dîm Rheoli i gyflawni nodau’r Ysgol.

Mae Catrin yn eistedd ar Bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Ysgol, gan helpu i sicrhau bod gan yr Ysgol gymuned agored a chynhwysol. Mae hi'n rhan o Dîm Hunan-asesu Athena Swan sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar gais Gwobr Arian yr Ysgol.

Ar ôl cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Nottingham yn 2020, symudodd Catrin i Fryste a gweithio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr fel Rheolwr Ymchwil yn Ysgol Fusnes Bryste. Ar ôl cael plant, dychwelodd i weithio fel Cynorthwyydd Addysgu yn ei hysgol gynradd leol, cyn symud yn ôl i weinyddiaeth y Brifysgol yng Nghaerdydd.

Mae Catrin wedi bod yn llywodraethwr mewn dwy ysgol ac wedi bod yn aelod o Gyngor y Brifysgol ers Awst 2023.