Ewch i’r prif gynnwys

Y Cyngor

Y Cyngor yw corff llywodraethu'r Brifysgol. Y corff hwn sydd â’r gair olaf ynglŷn â phob mater sy'n effeithio ar y Brifysgol.

Y Cyngor yw prif awdurdod y Brifysgol. Mae'n gyfrifol am reoli a chynnal busnes y Brifysgol yn effeithlon, gan gynnwys ei chyllid a'i heiddo. Mae manylion llawn cylch gorchwyl y Cyngor i’w gweld yn Statud VII.

Mae'r Cyngor yn adolygu ei effeithiolrwydd yn rheolaidd a bydd cynllun datblygu'n cael ei baratoi ar sail yr adolygiad. Bydd adroddiad cryno o adolygiad 2024 ar gael maes o law.

Elusen gofrestredig yw’r Brifysgol, a'r Cyngor yw Bwrdd Ymddiriedolwyr yr elusen.

Fel arfer bydd y Cyngor yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn a cheir cyfres o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y gweithgarwch datblygu.

Yr Aelodau Presennol

Unigolion lleyg yw'r rhan fwyaf o aelodau'r Cyngor. Mae hefyd yn cynnwys aelodau o’r staff a myfyrwyr. Rhagor o wybodaeth am aelodau presennol y Cyngor.

Cadeirydd y Cyngor

Patrick Younge
Patrick Younge, BSc

Ac yntau wedi cael gyrfa ryngwladol ym myd teledu a’r cyfryngau, Patrick Younge (BSc 1987) yw un o brif ffigyrau’r DU ym maes y cyfryngau.

Penodwyd Patrick yn Gadeirydd y Cyngor ym mis Ionawr 2022. Mae hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, y Pwyllgor Llywodraethu a'r Pwyllgor Taliadau.

Rhaglen y Prentisiaethau Llywodraethu

Yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25, mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn Rhaglen y Prentisiaethau Llywodraethu (GAP) dan arweiniad Perrett Laver.

Y Brifysgol oedd yn un o bartneriaid lansio'r cynllun ym mlwyddyn academaidd 2021/22. Nod y cynllun yw pontio'r bwlch i sicrhau amrywiaeth ar fyrddau, gan leihau'r amserlen er mwyn creu byrddau sy’n wirioneddol gynrychioliadol.

Penododd y Brifysgol Tukiya Mutupa yn Llywodraethwr Prentis y Cyngor rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025.

Cofrestr Buddiannau

Yn unol ag Ordinhadau’r Brifysgol, ac er mwyn cyd-fynd ag arferion da, mae’r Brifysgol yn cyhoeddi Cofrestr Buddiannau pob aelod o’r Cyngor a’r Pwyllgor Archwilio a Risg.

Lawrlwythwch gofrestr buddiannau ddiweddaraf y Cyngor (PDF).
Lawrlwythwch gofrestr buddiannau ddiweddaraf y Pwyllgor Archwilio a Risg (PDF).

Datganiad ynghylch Annibyniaeth

Mae Cyngor y Brifysgol yn penodi Aelodau Lleyg i fod yn llywodraethwyr annibynnol. Mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu dull cadarn o sicrhau annibyniaeth Aelodau Lleyg. Gallwch ddod o hyd i'r dull hwn, ynghyd â Diffiniad ac Egwyddorion Annibyniaeth, yn y Datganiad ynghylch Annibyniaeth.

Polisi ar fuddion

Mae gan y Brifysgol Bolisi ar Fuddion ar gyfer pob aelod lleyg o’r Cyngor, gan gynnwys talu treuliau, buddion a lletygarwch.

Lawrlwythwch y Polisi ar Fuddion ar gyfer Ymddiriedolwyr (PDF).

Cofnodion y pwyllgorau

Cewch weld holl gofnodion y cyfarfod ar gyfer y flwyddyn gyfredol a'r tair blynedd academaidd flaenorol.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych gwestiynau am rôl aelodau'r cyngor, neu'r broses enwebu, cysylltwch â’r Tîm Llywodraethu:

Llywodraethu