Siarter, Statudau a Deddfiadau
Mae'r fframwaith cyfansoddiadol rydym ni'n gweithio oddi fewn iddo'n seiliedig ar ein Siarter, Statudau ac Ordiniannau.
Mae'r Siarter a greuwyd yn 1884, yn gosod pwrpas a phwerau'r Brifysgol. Mae'r Statudau yn ymhelaethu ar y Siarter a chaiff unrhyw newidiadau i'r Siarter a'r Statudau eu cymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor ar ran Ei Fawrhydi y Brenin.
Mae'r Deddfiadau yn cefnogi'r Siarter a'r Statudau ac wedi eu creu gan y Cyngor. Gall rheoliadau eraill gael eu creu a'u cymeradwyo gan y Cyngor neu gan bwyllgorau eraill ar awdurdod a ddirprwywyd gan y Cyngor.
Mae'r dogfennau isod, ag eithrio'r Siarter, ar gael yn Saesneg yn unig.
Siarter
Mae'r Siarter yn diffinio amcanion, pwerau a swyddogion y Brifysgol. Mae egwyddorion craidd fel y gallu i ddysgu ac arholi, cynnal gwaith ymchwil ac arholiadau wedi eu hymgyrffori yn y Siarter.
Statudau
Mae'r Statudau'n cynnwys manylion aelodau'r Brifysgol, swyddogion, a'r rheolau ynghylch cyrff statudol.
Ordinanhadau
Mae'r Ordinhadau yn rhoi manylion ymarferol am y modd y mae'r Brifysgol yn cael ei llywodraethu o fewn fframwaith cyffredinol y Siarter a'r Ystatudau.
Cyfansoddiadau Pwyllgor Prif Bwyllgorau
Mae’r rhain yn rhoi aelodaeth a chylch gorchwyl y Prif Bwyllgorau: Pwyllgor Archwilio a Risgiau, Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau, Pwyllgor Llywodraethu, Pwyllgor Taliadau, Y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd, Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau Er Anrhydedd, Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd y Brifysgol, Y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, Y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
Is-bwyllgorau a phaneli sefydlog
Mae’r rhain yn rhoi aelodaeth a chylch gorchwyl y Paneli Sefydlog ac Is-bwyllgorau Canlynol: Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd; Is-Bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles; Pwyllgor Gonestrwydd a Moeseg Ymchwil Agored; Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau Er Anrhydedd; Pwyllgorau Adroddiad Adolygiad a Gwelliant Blynyddol y Coleg; Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid; Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd y Brifysgol