Academi Genedlaethol y Gwyddorau
Mae Academi Genedlaethol y Gwyddorau America yn gymdeithas breifat o ysgolheigion nodedig. Caiff aelodaeth ei derbyn yn eang fel nod rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth.
Mae’r Academi yn ethol uchafswm o 100 aelod newydd bob blwyddyn, a hyd at 25 o gymdeithion tramor. Caiff aelodau eu hethol i’r Academi i gydnabod eu llwyddiannau nodedig a pharhaus mewn ymchwil wreiddiol.
Aelodau
Yr Athro Bernard Schutz
Cafodd yr Athro Schutz ei ethol yn Aelod o’r Academi yn 2019. Mewn papur a gyhoeddwyd ym 1986, dangosodd sut y gall tonnau disgyrchol gael eu defnyddio i fesur sut mae’r Ddaear. Bron 30 mlynedd yn ddiweddarach, roedd yn rhan o’r tîm a arsylwodd ar donnau disgyrchol yn uniongyrchol am y tro cyntaf.
Yr Athro John Pickett
Cafodd yr Athro Picket ei ethol yn Gydymaith Tramor yr Academi yn 2014. Mae’n astudio ecoleg gemegol ymadweithiau rhwng organebau amrywiol, gan gynnwys plâu yn ymosod ar blanhigion ac anifeiliaid. Mae ei waith wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wella rheoli plâu a chynaliadwyedd amaethyddol.