Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig
Enillodd Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2015 ar gyfer cyflawni dealltwriaeth drawsnewidiol ragorol o achosion, diagnosis a thriniaeth salwch meddwl.
Dan arweiniad y Cyfarwyddwr, yr Athro Syr Michael Owen, mae’r Ganolfan yn dod a chymuned fyd-eang o ymchwilwyr blaenllaw at ei gilydd i ymchwilio i achosion nifer o anhwylderau seiciatrig a niwroddirywiol.
Mae eu gwaith yn ceisio gwella dealltwriaeth o’r modd y mae’r clefydau hyn yn codi; datblygu dulliau diagnostig newydd a dynodi targedau newydd ar gyfer triniaeth.
Ers iddi gael ei lansio yn 2009, mae ei hymchwil wedi gwneud camau breision gan ddarganfod y sylfaen enetig ar gyfer amrywiaeth o glefydau, o glefyd Alzheimer a sgitsoffrenia i anhwylder deubegwn ac ADHD.
Mae’r canlynol ymhlith prif ddarganfyddiadau’r Ganolfan:
- dynodi cyswllt genetig rhwng anabledd deallusol, awtistiaeth, ADHD a sgitsoffrenia
- darganfod y ffactorau risg genetig penodol cyntaf ar gyfer sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn ac ADHD
- darganfod genynnau risg newydd am y tro cyntaf ers dros 17 o flynyddoedd i glefyd Alzheimer.
Mae’r gwaith hwn wedi cysylltu nifer o systemau clefyd newydd ac mae gwyddonwyr y Ganolfan bellach yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau arloesol i drosi’r canfyddiadau diweddaraf hyn yn ddulliau newydd o drin ac atal.
Yn ogystal â’u darganfyddiadau genetig sylfaenol, mae gwaith ymchwilwyr y Ganolfan wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi ac ymarfer.
Er enghraifft mae eu hymchwil wedi:
- darparu tystiolaeth gref mai canabis yw un o’r ychydig o ffactorau risg y gellir ei addasu wrth atal sgitsoffrenia
- arwain at raglen ryngweithiol newydd i helpu’r rheini sy’n dioddef anhwylder deubegwn i reoli eu cyflwr
- arwain at newid sylweddol yn y ffordd y caiff pobl ifanc ddigartref yng Nghymru eu hasesu am anhwylderau iechyd meddwl.
Creu swyddi a datblygu addysg
Mae’r Ganolfan yn cynnig amgylchedd ymchwil unigryw yng Nghymru i gynyddu cyfranogiad mewn ymchwil iechyd meddwl ac mae’n trosi darganfyddiadau’n fuddion uniongyrchol i’r claf. Yn y chwe blynedd ers iddi fod yn weithredol, mae wedi creu 182 o swyddi ac wedi denu dros £90M o fuddsoddiad, gan lwyddo i sefydlu’r Brifysgol a Chymru fel arweinwyr byd-eang mewn niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.
Y tu hwnt i ymchwil, mae’r Ganolfan yn cyflwyno rhaglenni arloesol mewn addysg israddedig ac ôl-raddedig ac yn ymrwymo i chwalu’r stigma ynghylch anhwylderau iechyd meddwl drwy agenda ymgysylltu eang â’r cyhoedd.
Daw’r Ganolfan â chymuned fyd-eang o ymchwilwyr blaenllaw at ei gilydd i ymchwilio i brif achosion problemau iechyd meddwl.