Y Sefydliad Geneteg Feddygol
Mae Sefydliad Geneteg Feddygol y Brifysgol wedi trawsnewid gofal iechyd ar gyfer sawl clefyd etifeddol, ac mae ganddo draddodiad hir o ymchwil nodedig a chydweithio rhyngwladol.
Mae'r Sefydliad wedi'i leoli yn yr Ysgol Meddygaeth, ac fe'i sefydlwyd ym 1987. Yn 2007 enillodd Wobr Pen-blwydd y Frenhines am waith yn canfod achosion genetig clefydau a datblygu profion diagnostig newydd a thriniaethau ar eu cyfer, er budd cleifion a'u teuluoedd.
Ymhlith yr hyn a gyflawnwyd ganddo mae:
- Adnabod genynnau sy'n gysylltiedig â chanser y coluddyn, Clefyd Huntington, nychdod cyhyrol, sglerosis twberus a chlefyd arennau polysystig.
- Datblygu profion sy'n cael eu defnyddio nawr yn y GIG a thramor, gan ganiatáu diagnosis cynharach a chywirach a thriniaethau sy'n fwyfwy effeithiol.
- Treialon o driniaethau newydd ar gyfer sglerosis twberus a Chlefyd Huntington.
- Gwell sgrinio ar gyfer teuluoedd sydd mewn perygl o glefyd.
- Hyfforddi cynghorwyr i gynorthwyo cleifion a theuluoedd i ddygymod â chanlyniadau profion genetig.
- Helpu i ddatblygu Parc Geneteg Cymru, er mwyn gwella economi gwybodaeth Cymru a dealltwriaeth y cyhoedd o wyddor geneteg.
Ers ennill y Wobr mae'r Sefydliad wedi ehangu trwy fuddsoddi £4.8m mewn labordai newydd ar gyfer rhagor o waith ar eneteg canser. Bu'n canolbwyntio ar ddatblygu dulliau newydd o ddiagnosis a thriniaeth cynharach.
Ymhlith y datblygiadau allweddol diweddaraf mae darganfod y gallai cemegyn a ddarganfuwyd gyntaf ar Ynys y Pasg drin y salwch genetig, sglerosis twberus. Ar hyn o bryd mae'r Sefydliad yn arwain astudiaeth ledled y DG ynglŷn â thriniaeth newydd yn ymwneud â'r cyffur Sirolimus.