Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines

Mae gwobrau pen-blwydd y Frenhines yn cael eu dyfarnu bob dwy flynedd i brifysgolion a cholegau ar draws y DU am waith rhagorol.  

Mae'n timoedd ymchwil a'n aelodau staff gydag enw da iawn oherwydd eu hymchwil cryf a'i effaith ymarferol. 

Enillwyr gwobrau

Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down

Enillodd wobr 2017 am ei hymchwil a’i thriniaethau arloesol mewn perthynas â phroblemau golwg mewn plant sydd â syndrom Down.

Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig

Enillydd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2015 ar gyfer cyflawni dealltwriaeth drawsnewidiol ragorol o achosion, diagnosis a thriniaeth salwch meddwl.

Canolfan Ymchwil Geoamgylcheddol

Enillydd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn 2013

Grŵp Ymchwil Trais

Enillydd un o Wobrau Pen-blwydd y Frenhines i Addysg Uwch a Phellach yn 2009.

Y Sefydliad Geneteg Feddygol

Enillodd Wobr Pen-blwydd y Frenhines am waith yn canfod achosion genetig clefydau a datblygu profion diagnostig newydd a thriniaethau.

Y Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu

Enillodd Wobr Pen-blwydd y Frenhines 2000 am ei chyfraniad i’r economi.

Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru (bellach wedi uno gyda Phrifysgol Caerdydd)

Mae'r defnydd byd-eang o brofion gwrthgyrff wedi'u labelu sydd wedi eu seilio ar gemoleuedd yn dystiolaeth o arwyddocâd gwaith y Coleg.