Ewch i’r prif gynnwys

Ein safle yn y tablau

Cyhoeddir tablau cynghrair cenedlaethol y DU a rhyngwladol yn flynyddol i helpu darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus am wahanol sefydliadau.

EnwSafleBlwyddynLleoliad
The Times a Sunday Times University Guide252024Cenedlaethol 
The Complete University Guide272024Cenedlaethol
Guardian University Guide292024Cenedlaethol
Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd1862024Rhyngwladol
Rhestr Academaidd o Brifysgolion y Byd151-2002022Rhyngwladol
Rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd1902023Rhyngwladol
Daily Mail University Guide 332024Cenedlaethol

The Times a The Sunday Times University Guide

Mae Prifysgol Caerdydd yn y 25ain safle yn Good University Guide 2024 The Times a The Sunday Times, sy’n golygu mai Caerdydd sydd â’r sgôr uchaf ymhlith prifysgolion Cymru.

Mae The Times a The Sunday Times University Guides yn mesur boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil, rhagolygon graddedigion, cymwysterau mynediad, canlyniadau graddau a gyflawnir, cymarebau staff/myfyrwyr, gwariant ar wasanaethau a chyfleusterau a'r niferoedd sy'n gadael eu cyrsiau cyn eu cwblhau.

The Complete University Guide

Mae'r Brifysgol yn y 26ain safle yn The Complete University Guide 2024, ac ar frig y tabl cynghrair yng Nghymru.

Mae The Complete University Guide wedi cyhoeddi tablau cynghrair am brifysgolion a materion perthnasol ar-lein ers 2007. Mae'r tablau cynghrair fesul pwnc yn mesur pedair elfen: Boddhad Myfyrwyr, Safon Ymchwil, Safonau Mynediad a Rhagolygon Graddedigion.

Guardian University Guide

Mae'r Brifysgol yn y 29ain safle yn The Guardian University Guide ar gyfer 2024, gan sgorio'n dda am

  • fodlon ar y cwrs
  • gyrfa wedi 15 mis

Mae'r fethodoleg ar gyfer The Guardian University Guide yn canolbwyntio ar dablau cynghrair ar lefel pynciau. Mesurir wyth elfen ystadegol wrth asesu ein perfformiad o ran sut yr addysgir pob pwnc.

Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd

Ni yw'r Brifysgol orau yng Nghymru, yn safle 186 yn y byd, ac rydym yn parhau i fod ymhlith prifysgolion gorau'r DU. Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yw'r canllaw diffiniol i brifysgolion gorau'r byd.

Mae dros 3,000 o brifysgolion yn cael eu gwerthuso yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd.

Tabl Cynghrair o Brifysgolion y Byd

Mae Prifysgol Caerdydd rhwng safleoedd 151 a 200 yn nhabl Rhestr Academaidd o Brifysgolion y Byd 2022, tabl cynghrair dylanwadol o sefydliadau byd-eang.

Mae'r tabl yn rhestru 500 prifysgol orau'r byd, ac yn cael ei gydnabod fel meincnod o berfformiad rhyngwladol prifysgolion.

Rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd

Mae Prifysgol Caerdydd yn safle rhif 190 ar Restr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd 2024.

Mae’r rhestr yn cynnwys mwy na 1,250 o brifysgolion, ac mae’n asesu prifysgolion ymchwil-ddwys ar draws eu holl genadaethau allweddol: addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth a gweledigaeth ryngwladol.

Rhestrau Effaith y Times Higher Education

Mae Rhestr Effaith 2024 THEyn gosod Caerdydd yn y 55fed safle o blith 2,152 o sefydliadau ledled y byd.

Yr Impact Rankings yw'r unig dablau perfformiad byd-eang sy'n asesu prifysgolion yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDGs). Maent yn archwilio'r effaith y gall prifysgol ei chael, yn benodol drwy edrych ar themâu tlodi, anghydraddoldeb, newid yn yr hinsawdd, diraddio amgylcheddol, heddwch a chyfiawnder.

Mae'r Impact Rankings yn darparu arddangosfa ar gyfer gwaith sy'n cael ei gyflawni gan brifysgolion mewn cymunedau ac maent yn gyfle i ddisgleirio'r golau ar weithgareddau sefydliadol ac ymdrechion nad ydynt wedi'u cynnwys mewn safleoedd eraill.

Yn 2023 fe wnaethom gyrraedd y 50 uchaf ar gyfer pedwar Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig:

  • 14eg am Fywyd o dan y dŵr
  • 15fed am Fywyd ar y tir
  • 16eg am Heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cryf
  • 17eg am Bartneriaethau ar gyfer y nodau

Daily Mail University Guide

Mae Prifysgol Caerdydd yn y 33fed safle yn y Daily Mail University Guide 2024.