Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau

Rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau ar gyfer cyrsiau penodol, ac ar gyfer myfyrwyr sy’n ennill canlyniadau arholiadau rhagorol.

Dyfarniad Pwy allai fod yn gymwys? Swm

Ysgoloriaethau yr Ysgol Peirianneg

Myfyrwyr wedi cofrestru mewn rhaglen radd sy'n gysylltiedig â pheirianneg. Mae swm y dyfarniad yn amrywio. Cewch wybod rhagor ar dudalennau gwe yr Ysgol Peirianneg

Ysgoloriaeth Ysgol y Gymraeg (a adwaenir hefyd fel Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol)

Myfyrwyr israddedig sy’n dewis astudio’r Gymraeg gyda ni. Mae tair ysgoloriaeth ar gael, a phob un yn werth £1,000. Cewch wybod rhagor ar dudalennau gwe Ysgol y Gymraeg
Ysgoloriaethau i astudio trwy gyfrwng y GymraegMyfyrwyr israddedig sy'n astudio rhan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.Hyd at £3,000 dros dair blynedd.
Ysgoloriaeth Plant AberfanMyfyrwyr yr oedd eu rhieni'n byw yn Aberfan yn ystod trychineb Aberfan 1966, neu fyfyrwyr sy'n byw ym Merthyr Tudful ar hyn o bryd.Hyd at £1,500 dros gyfnod o dair blynedd.
Ysgoloriaeth Sefydliad CowrieMae'r ysgoloriaeth hon ar gyfer treftadaeth Du Affricanaidd a Du Caribïaidd, ymgeiswyr sy'n byw yn y DU o gefndiroedd a dangynrychiolir yn economaidd-gymdeithasol.Hyd at £8,000 ar gyfer pob blwyddyn

Ysgoloriaethau i fyfyrwyr rhyngwladol

Gall ysgoloriaethau cyllido ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ddarparu cymorth ariannol hanfodol, gan eich galluogi i ddilyn addysg uwch dramor. Mae'r ysgoloriaethau hyn yn aml yn cynnwys ffioedd dysgu, costau byw, a chostau academaidd eraill, gan leddfu'r baich ariannol o astudio mewn gwlad arall.

Darganfyddwch fwy am ysgoloriaethau rhyngwladol

Canllaw Cyllid Myfyrwyr 2025

Canllaw cyllid myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr y Deyrnas Unedig.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr