Rhwydweithio a digwyddiadau
Cysylltwch â ni mewn digwyddiadau rhwydweithio, gweithdai, darlithoedd ac arddangosfeydd.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio i chi ymgysylltu â ni a sefydliadau eraill ar draws sectorau gwahanol. Mae'r rhain yn rhoi’r gallu i chi gyfnewid syniadau a chreu posibiliadau i arloesi a thyfu.
Rhwydweithiau a chyfleoedd
Y Rhwydwaith Arloesedd
Mae’r Rhwydwaith Arloesedd yn cysylltu sefydliadau allanol â'n hymchwilwyr a'n harloeswyr. Mae'r rhwydwaith yn bont ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, sy’n creu cyfleoedd i ddod â phobl o'r un meddwl at ei gilydd i drafod syniadau a gwneud cysylltiadau gwerthfawr sydd o fudd i bawb, sy'n aml yn arwain at gydweithio.
Trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar bynciau sy'n ymwneud ag arloesedd a chyfleoedd i sefydliadau yng Nghymru.
Cyfres Briffio dros Brecwast ar Addysg Weithredol
Mae'r gyfres Briffio dros Brecwast ar Addysg Weithredol yn cynnig cyfle i ymarferwyr busnes, gwneuthurwyr polisi, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill glywed am yr ymchwil diweddaraf i ystod o themâu busnes a rheoli, a chan arweinwyr busnesau arloesol o amrywiaeth o sectorau.
Cyfryngau cymdeithasol
Gall aelodau o grŵp y Rhwydwaith Arloesedd ar LinkedIn gymryd rhan mewn trafodaethau cyfoes am arloesedd a chydweithio, a chael manylion cynnar am ddigwyddiadau sydd ar y gweill.
Dilynwch Prifysgol Caerdydd Arloesedd + Effaith ar gyfer yr holl newyddion, y digwyddiadau a’r cyfleoedd diweddaraf sy’n ymwneud ag ymchwil ac arloesedd
Ceir grŵp LinkedIn ar gyfer Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd hefyd.
Dilynwch ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion a’r cyfleoedd diweddaraf gan Brifysgol Caerdydd sy’n ymwneud ag arloesedd.
Myfyrwyr sydd â diddordeb mewn busnes
Dylai myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb mewn busnes gysylltu â Thîm Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd, fyddai’n hapus i helpu.
Cysylltu, cydweithio a chreu gyda'r rhwydwaith Arloesedd + Effaith.