Recriwtio ein myfyrwyr rhyngwladol
Gyda 7,530 myfyriwr rhyngwladol o fwy na 138 o wledydd, rydyn ni’n falch o allu creu cymuned academaidd amrywiol ac ysbrydoledig ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn rhoi cyfle unigryw i sefydliadau gael mynediad at gronfa dalent sy’n dra eang, a set sgiliau a rhwydwaith sy’n unigryw i’n carfan ryngwladol; rhywbeth efallai nad ydych chi eisoes wedi’i ystyried.
Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn:
- astudio cymwysterau israddedig a chymwysterau lefel uwch, megis graddau meistr a PhD
- a hwythau wedi’u rhannu ar draws ein holl golegau, gwelir niferoedd uchel o fyfyrwyr rhyngwladol yn yr Ysgol Busnes, Cyfrifiadureg, y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Peirianneg, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Meddygaeth a Phensaernïaeth
- yn hynod ymgysylltiol â chyflogadwyedd ac yn awyddus i ychwanegu gwerth at eich sefydliad
Recriwtio heb nawdd
Mae’r Llwybr Graddedigion yn caniatáu i raddedigion rhyngwladol aros yn y DU am hyd at ddwy flynedd (neu dair os oes ganddyn nhw PhD) i weithio neu chwilio am waith. Nid oes angen nawdd na thalu ffioedd cyflogwr. Hyd yn oed os mai swydd barhaol yw’r un rydych chi’n ei chynnig, gallwch chi dal dechrau recriwtio o dan y llwybr hwn.
Ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y cyflogai yma o dan y llwybr graddedigion, mae hawl iddyn nhw wneud cais i newid i’r llwybr Gweithiwr Medrus, os yw’r swydd yn bodloni’r gofynion angenrheidiol. I gael rhagor o wybodaeth, mae gan UKCISA ganllaw i gyflogwyr ar recriwtio graddedigion rhyngwladol.
Noddwr i recriwtio am gyfnod hirach
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar faint o amser y mae modd i rywun ei dreulio o dan y llwybr Gweithiwr Medrus. Ar gyfer newydd-ddyfodiaid i’r farchnad lafur, mae’n rhaid i gyflogau fod o leiaf £30,960, yn ogystal â chwrdd â 70% o’r “gyfradd barhaus” ar gyfer y swydd (gweler yr Atodiad Rheolau Mewnfudo Galwedigaethau Medrus am gyfraddau).
Os nad oes gennych chi drwydded noddwr eto, darllenwch ganllawiau’r Llywodraeth am ddod yn noddwr. I gael rhagor o wybodaeth, mae gan UKCISA ganllaw i gyflogwyr ar recriwtio graddedigion rhyngwladol.
Recriwtio cynhwysol
Gwnewch yn siŵr bod eich arferion recriwtio yn deg ac yn osgoi gwahaniaethu drwy:
- dderbyn ac ystyried ceisiadau gan unrhyw ymgeiswyr sy’n meddu ar sgiliau a phrofiad addas, ni waeth beth fo’u cenedligrwydd
- defnyddio datganiadau fel a ganlyn: “rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus gael caniatâd i weithio yn y DU cyn dechrau ei gyflogaeth”
- chwilio am dystiolaeth bod gan rywun yr hawl i weithio ar gamau olaf y broses recriwtio, yn hytrach nag ar y camau cychwynnol
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am recriwtio ein myfyrwyr rhyngwladol cysylltwch â ni: