Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig
Mae Prifysgol Caerdydd yn cyfranogi yn Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig (PRES) a gynhelir gan yr Academi Addysg Uwch, ac a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2011. Cymerodd 102 o sefydliadau o’r DU ran yn PRES 2011. Gan fod 31,202 o fyfyrwyr wedi cwblhau’r arolwg, roedd cyfradd ymateb cenedlaethol o 32%.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, ymatebodd 640 o fyfyrwyr, sy’n cynrychioli 32% o’r myfyrwyr ymchwil sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd. Ar y cyfan, roedd ymatebwyr yn gadarnhaol iawn am eu profiadau: er enghraifft, dywedodd 85% fod y profiad yn gyffredinol wedi bodloni neu ragori ar eu disgwyliadau a dywedodd bron i ddau draean fod y profiad wedi rhagori ar eu disgwyliadau. Gan gyfeirio at ddatblygu ymchwil a sgiliau trosglwyddadwy, dywedodd 88% a 87%, yn eu trefn, fod eu disgwyliadau wedi’u bodloni neu ein bod wedi rhagori arnynt, ac roedd yr un peth yn wir am 84% y gofynnwyd iddynt am fynediad i gyfleusterau a 80% pan ofynnwyd iddynt am yr amgylchedd ymchwil. Ar y cyfan, roedd y canlyniadau cystal neu’n well na’r canlyniadau o’r sector cyfan ac o feincnod Grŵp Russell.
Cafodd y canlyniadau rhagarweiniol eu cyflwyno i gyfarfod cynrychiolwyr Ymchwil Ôl-raddedig ym mis Gorffennaf 2001 ac mae canlyniadau ysgolion unigol wedi’u lledaenu i Gyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yn yr Ysgol.
Caiff dadansoddi pellach ei gynnal i ystyried ymatebion is-setiau o fyfyrwyr (megis blwyddyn astudio; Ysgol; statws rhan-amser neu amser llawn; myfyrwyr o’r DU, yr UE a thramor). Caiff canlyniadau’r dadansoddiad hwn eu hystyried gan Dimau Rhaglen Coleg Graddedigion y Brifysgol i adnabod unrhyw feysydd lle mae angen gwelliant.
Gallwch weld adroddiad yr Academi Addysg Uwch ar ganlyniadau 2011 yma.
Gall aelodau Prifysgol Caerdydd ofyn am gopi llawn o ganlyniadau PRES 2011 drwy gysylltu â ni ar UGC@Caerdydd.ac.uk

