Rhaglen Coleg Graddedigion y Brifysgol
CYSWLLT CYFLYM: Cliciwch yma i fynd yn syth i’n system archebu ar y we
Bwriad Rhaglen Coleg Graddedigion y Brifysgol yw cynnig cyfleoedd ichi feithrin y sgiliau y mae arnoch eu hangen i gwblhau’ch gradd ymchwil yn brydlon a gwella’ch cyflogadwyedd. Mae’n ymgorffori sgiliau personol a phroffesiynol cyffredinol a sgiliau yn y disgyblaethau penodol, ac mae’ cael ei drefnu gan Goleg Graddedigion y Brifysgol.
Mae’r rhaglen yn cael ei llywio gan y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr (RDF), sef ymagwedd bwysig newydd at ddatblygu ymchwilwyr, sy’n anelu at ddatblygu ymchwilwyr o’r safon orau yn y byd ac adeiladu cronfa ymchwil addysgol y Deyrnas Unedig. Cafodd yr RDF ei ddatblygu gan Vitae, drwy ymgynghori â sefydliadau addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig a’r sector cyhoeddus a phreifat, ac mae’n disgrifio gwybodaeth, ymddygiad a phriodweddau ymchwilwyr llwyddiannus. Mae Rhaglen Coleg Graddedigion y Brifysgol wedi’i strwythuro ar sail y pedwar ‘pau’ neu gategori sydd wedi’u nodi yn yr RDF: gwybodaeth a galluoedd deallusol; effeithiolrwydd personol; llywodraethiant a threfniadaeth ymchwil; ac ymgysylltu, dylanwadu ac effeithio.
Mae holl ddigwyddiadau’r rhaglen yn agored i fyfyrwyr ymchwil Prifysgol Caerdydd (MPhil, MRes, PhD, MD, MCh, a doethuriaethau proffesiynol). Gellir caniatáu ymchwilwyr ar ymweliad os oes lleoedd ar gael.
Mae gwybodaeth gyffredinol am strwythur y rhaglen a chyngor am gynllunio sut i ddatblygu’ch sgiliau ar gael ar y tudalennau sydd wedi’u rhestru yn y ddewislen ar y chwith. Mae fersiwn PDF o Lawlyfr Coleg Graddedigion y Brifysgol, sy’n cynnwys y disgrifiadau a’r amserlen, ar gael ar waelod y tudalen.
Rhaid i bob gweithdy gael ei archebu ymlaen llaw drwy gyfrwng ein system ar y we, sy’n cynnwys y rhestr fwyaf diweddar o ddigwyddiadau’r flwyddyn gyfredol.
I gael rhagor o wybodaeth am drefniadau archebu lle, cliciwch yma.
Os cewch unrhyw anhawster wrth ddefnyddio’r system archebu lle, cysylltwch â ni ar 029 2087 0046 neu drwy anfon at ugc@caerdydd.ac.uk neu edrychwch ar ‘University Graduate College Programme’ yn Lotus Notes.
Rhaglen Coleg Graddedigion y Brifysgol 2012 (2.5 Mb, 148 downloads)

