Dechrau Arni: Ymsefydlu
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle difyr i gwrdd â myfyrwyr ymchwil eraill a dechrau datblygu rhwydweithiau personol a phroffesiynol pwysig. Mae’n cynnig cyflwyniad i ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys hawliau a chyfrifoldebau, y cyfleusterau a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan Goleg Graddedigion y Brifysgol a chyflwyniadau gan fyfyrwyr presennol ynghylch dechrau a mwynhau eich rhaglen ymchwil.
Mae’r rhaglen ymsefydlu wedi’i chydlynu’n ofalus â’r Ysgolion Academaidd er mwyn osgoi ailadrodd a sicrhau bod gennych yr ‘hanfodion’ i’ch rhoi ar ben y daith. Mae’n bwysig nodi y bydd y digwyddiad yn cyflwyno’r cyfleoedd hyfforddi a datblygu sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn eich galluogi i ddechrau cynllunio i ddatblygu’ch sgiliau
Sylwch:
Mae angen archebu lle ymlaen llaw: Ewch i system we Rhaglen Coleg Graddedigion y Brifysgol a dewiswch y categori gweithdai ‘Ymsefydlu ‘.
Dydd Llun 15 Gorffennaf 2013 09.00 – 15.30
Sylwch: Mae sesiynau mis Hydref yn gorffen â chinio neu dderbyniad. Mae’r sesiynau yng nghanol y flwyddyn yn ymdrin â phynciau ychwanegol sydd heb gael sylw ar sesiynau ymsefydlu’r Ysgolion, ac yn cynnwys cinio.

