Gwybodaeth i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig Newydd
Dechrau Arni – Digwyddiad Ymsefydlu i Ymchwilwyr Newydd
Cofrestrwch i ddod i’r digwyddiad ymsefydlu Dechrau Arni, yn unswydd i ymchwilwyr newydd, sy’n cynnig cyflwyniad pwysig i fywyd ac astudiaethau fel ymchwilydd newydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ym mis Hydref, Ionawr, Ebrill a Gorffennaf. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Rhaglen Coleg Graddedigion y Brifysgol
Rhaglen gynhwysfawr o weithdai a gweithgareddau i ddatblygu’ch sgiliau ymchwil a’ch sgiliau rheoli ymchwil, yn ogystal â’ch sgiliau personol a phroffesiynol. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Sut beth yw gwneud PhD
Cliciwch yma i weld cronfa ddata ar-lein sy’n cynnwys gwybodaeth, canllawiau, straeon digri a phrofiadau personol myfyrwyr PhD ddoe a heddiw a allai’ch helpu i ymdopi â bywyd fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig.
Rheoli’ch prosiect, eich goruchwylydd a chi’ch hun
Mae Vitae yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth a chanllawiau i fyfyrwyr a staff ymchwil.
Rheolau a Rheoliadau’r Brifysgol
- Llawlyfr Graddau Ymchwil
- Rheoliadau academaidd eraill (uniondeb academaidd, presenoldeb, monitro cynnydd)
Ynghylch eich Ysgol Academaidd …
Cysylltiadau allweddol yn eich ysgol academaidd:
- Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig
- Gweinyddydd Ymchwil Ôl-raddedig
Holwch eich goruchwylydd neu’r Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig i gael gwybodaeth am y canlynol:
- Taith o amgylch cyfleusterau’r Ysgol
- Cod Ymarfer a fframweithiau lleol yr Ysgol
- Trefniadau Iechyd a Diogelwch
- Trefniadau’r Ysgol ynghylch monitro cynnydd
- Adborth gan y myfyrwyr a dulliau cyfathrebu
- Polisïau a gweithdrefnau’r Ysgol ar foeseg ymchwil
- Rhaglen yr Ysgol ar ddatblygu sgiliau a hyfforddiant
- Rhaglen seminarau’r Ysgol
- Cyllid at gynadleddau a gweithgareddau allanol
- Grwpiau/cymdeithasau i ôl-raddedigion yn yr Ysgol
Gweler gwefan Dysgu Canolog lle cewch ragor o wybodaeth am eich ‘Camau Cyntaf’.
Gwasanaethau Llyfrgell
- Nodwch ba lyfrgell sydd â’r deunyddiau sy’n berthnasol i’ch pwnc chi.
- Mynnwch y llyfrau a’r cyfnodolion y bydd arnoch eu hangen.
- I ymchwilwyr o hirbell.
Gwasanaethau Cyfrifiaduro
- Defnyddiwch rwydwaith cyfrifiadurol y Brifysgol.
- Cofrestrwch eich cyfrifiadur pen-glin i gael gwasanaethau diwifr.
Gwasanaethau Cymorth
- Cofrestrwch gyda Meddyg a Deintydd.
- Cyngor am faterion tai, cyllid, lles a materion academaidd.
- Cyngor a chwnsela ar faterion personol.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Rhwydwaith Cymorth y Myfyrwyr Ymchwil Rhyngwladol (IRSSN). Mae’r IRSSN yn rhwydwaith gwirfoddol ac anffurfiol o fyfyrwyr ymchwil rhyngwladol sydd wedi’i sefydlu i ddiwallu’r anghenion ychwanegol sydd gan lawer o fyfyrwyr rhyngwladol yn ystod eu cyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd o ran cyd-gymorth ac anogaeth. Grŵp cymdeithasol o fyfyrwyr rhyngwladol aeddfed yw hwn yn bennaf ac mae’n cyfarfod yn anffurfiol yn rheolaidd (bob mis), er enghraifft i gael sgwrs anffurfiol am bwnc sydd o ddiddordeb i bawb, i hel syniadau am fater anacademaidd neu ar fater PhD academaidd, i gael pryd o fwyd neu i fowlio deg. Mae’r IRSSN yn croesawu myfyrwyr PhD rhyngwladol newydd i gofrestru eu diddordeb mewn ymuno â’r rhwydwaith drwy anfon eu rhif ffôn symudol a’u cyfeiriad e-bost cyfredol at Sarah Simons, simonssa@caerdydd.ac.uk a fydd yn anfon dyddiad y cyfarfod nesaf atoch drwy’r e-bost.

