Digwyddiadau Gyrfaoedd
Mae’n bosibl eich bod chi’n gwybod bod ymchwilwyr yn mynd i mewn i amryw o yrfaoedd – mewn diwydiant, yn y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yn ogystal â’r byd academaidd. Er hynny, does gan lawer o ymchwilwyr ddim syniad clir beth yw eu hopsiynau na beth y gallai llwybr gyrfa penodol ei olygu. Gan hynny, rydyn ni’n trefnu nifer o ddigwyddiadau gyrfaoedd i chi. Mae yna ddigwyddiadau ‘Edrych ar Opsiynau Yrfa i …’ gyda phaneli o raddedigion doethur mewn disgyblaethau penodol, sy’n disgrifio’u llwybrau gyrfa a sut maen nhw’n defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth o’r PhD yn eu rolau presennol, yn ogystal â digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd penodol – megis gweithio i NGOs. Rydyn ni hefyd yn helpu ymchwilwyr sydd am fynd ar ôl gyrfa academaidd.
Ar gyfer yr holl ddigwyddiadau gyrfaoedd, ewch i’n system we, a chwilio am yr allweddair ‘careers’.
Mae’n bosibl hefyd y bydd gennych ddiddordeb yn yr adnoddau toreithiog ar gyfer ystyried gyrfaoedd ar wefan Vitae, sy’n ymdrin â gwaith mewn Addysg Uwch, Gyrfaoedd y tu allan i Addysg Uwch, Proffiliau Gyrfa, gwybodaeth am Farchnadoedd Llafur a mwy – i gyd yn unswydd ar gyfer myfyrwyr ymchwil.

