Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cynadleddau i Fyfyrwyr

Mae nifer o gynadleddau o dan arweiniad myfyrwyr yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn i roi cyfleoedd i fyfyrwyr mewn disgyblaethau gwahanol gyflwyno’u gwaith i’w gilydd, rhannu a datblygu eu diddordebau ymchwil, a chreu cysylltiadau rhwng y disgyblaethau a fydd o les i bawb. Mae’r cynadleddau’n fodd i’r myfyrwyr feithrin eu sgiliau cyflwyno mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol, gan eu helpu i deimlo eu bod yn rhan o’r gymuned ymchwil ehangach.

Mae’r cynadleddau’n cynnwys:

Llais y Dyniaethau
Siarad am Wyddoniaeth
Golwg ar y Gwyddorau Cymdeithasol
Cynadleddau ar Themâu Penodol (Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol)

I gael y newyddion diweddaraf am Gynadleddau i Fyfyrwyr, cliciwch yma

Cymryd Rhan

Mae pob un o’r digwyddiadau yn cael ei drefnu gan bwyllgor o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o nifer o Ysgolion. Mae’n brofiad difyr ac yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy mwn trefnu digwyddiadau, i’w hychwanegu at eich CV. Os hoffech gymryd rhan, anfonwch neges e-bost aton ni: UGC@caerdydd.ac.uk