Hyfforddi a Datblygu

Mae gan Goleg Graddedigion y Brifysgol raglen integredig a chynhwysfawr o ddatblygu sgiliau a hyfforddiant ffurfiol i ymchwilwyr ôl-raddedig o’r enw Rhaglen Coleg Graddedigion y Brifysgol. Mae’r rhaglen yn cynnig gweithdai a chyrsiau mewn sgiliau a thechnegau ymchwilio, yn ogystal â meysydd ehangach rheoli ymchwil a datblygu proffesiynol.
CYSWLLT CYFLYM: Cliciwch yma i fynd yn syth i’n system archebu ar y we.
Yn ychwanegol at gyrsiau, mae Coleg Graddedigion y Brifysgol yn galluogi datblygiadau ymhlith ymchwilwyr drwy gyfleoedd i gymryd rhan mewn cynadleddau dan arweiniad myfyrwyr, ac i sicrhau arian at weithgareddau amlddisgyblaeth dan arweiniad myfyrwyr a fydd yn gwella’r amgylchedd ymchwil.
Enillodd ein pecyn o gymorth i ymchwilwyr ôl-raddedig le ar restr fer Gwobrau Addysg Uwch y Times yn 2010 ar gyfer “Cymorth Eithriadol i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa”.
- Rhaglen Coleg Graddedigion y Brifysgol
- Gwybodaeth i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig Newydd
- Cyllid at Weithgareddau Amlddisgyblaeth
- Digwyddiadau Gyrfaoedd
- Cynadleddau i Fyfyrwyr
- Modiwlau Ar-lein mewn Sgiliau Ymchwil
- Cynllunio i Ddatblygu’ch Sgiliau
- Achredu ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig (PGR) sy’n Addysgu


