Y Meysydd Allweddol
Cenhadaeth Coleg Graddedigion y Brifysgol yw gwella profiad myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn y Brifysgol. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ganolbwyntio ar y pedwar maes rhaglen a ganlyn:
Hyfforddi a Datblygu
Nod ein rhaglen hyfforddi a datblygu eang yw helpu’r myfyrwyr i berffeithio’r sgiliau y mae eu hangen i fod yn ymchwilydd effeithiol a llwyddiannus, a gwella cyfraddau cyflogadwyedd ar ôl iddyn nhw orffen eu hastudiaethau ôl-raddedig. Mae hyn yn cynnwys ystod o gyrsiau a all gael eu cwblhau ar-lein.
Cyfleusterau
Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o gyfleusterau i ymchwilwyr ôl-raddedig, gan gynnwys llyfrgelloedd, labordai, gwasanaethau gwybodaeth a lle i weithio. Mae Coleg Graddedigion y Brifysgol yn gweithio i sicrhau bod y cyfleusterau hyn yn briodol i anghenion yr ymchwilwyr. Mae hefyd yn goruchwylio’r Ganolfan i Raddedigion, sy’n darparu lle i’r myfyrwyr gymdeithasu ac astudio.
Sicrhau Ansawdd
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ansawdd y graddau ymchwil. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy sicrhau bod ein haddysg i ôl-raddedigion yn cadw at god ymarfer llym a bod y myfyrwyr yn cael lleisio’u barn mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys arolygon rheolaidd ‘llais y myfyrwyr‘ ac aelodaeth o’n strwythurau penderfynu.
Meithrin Gallu
Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin y gallu i gynnig graddau ymchwil. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy wneud y gorau o’r cyfleoedd ariannol, mewnol ac allanol, sy’n caniatáu inni adeiladu hyfforddiant mewn ymchwil ôl-raddedig.

