Gwybodaeth i Fyfyrwyr Gradd Meistr
Ydych chi’ astudio at radd Meistr?
Mae gwaith Coleg Graddedigion y Brifysgol yn canolbwyntio’n bennaf ar fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, felly os ydych chi’n astudio at MRes neu MScSSRM rydych chi’n gymwys ar gyfer Rhaglen Coleg Graddedigion y Brifysgol. Os ydych yn astudio at radd sy’n cael ei haddysgu, megis MA, MSc, neu MBA mae croeso cynnes ichi ddod i ddarlithoedd a digwyddiadau cyhoeddus Coleg Graddedigion y Brifysgol.
Os ydych yn ystyried parhau â’ch astudiaethau gyda PhD, rydyn ni’n eich annog i edrych ar ein tudalen i ddarpar fyfyrwyr.
Mae’r Brifysgol yn cynnig lle penodol i’w holl fyfyrwyr ôl-raddedig, gan gynnwys myfyrwyr gradd Meistr, yn y Ganolfan i Raddedigion.
Mae’r Ganolfan i Raddedigion yn cynnig lle i gymdeithasu ac i astudio, yn ogystal â chanolbwynt i gymuned ôl-raddedig Caerdydd. Mae’r Ganolfan i Raddedigion hefyd yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau rheolaidd ac unigol drwy gydol y flwyddyn, ynghyd â chyfres flynyddol o Deithiau Bws i gyrchfannau gwych ledled y Deyrnas Unedig.

