Gweithdy Cyfleu Gwyddoniaeth
Fe’i hariannir gan Goleg Graddedigion Prifysgol Caerdydd
Dydd Mercher 6ed Mawrth 2013 09:30am-4:45pm
Canolfan y Graddedigion, Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd
Dewch i ddysgu cyfleu’ch ymchwil yn effeithiol, beth bynnag yw’ch pwnc!
Gweithdy rhyngweithiol ynghylch cyfleu gwyddoniaeth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Cewch chi sgyrsiau i’ch ysbrydoli gan yr Athro James Scourse (Cyfarwyddwr Director Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru), Dr Lorraine Whitmarsh (Cydymaith Canolfan yr ESRC ar gyfer Perthnasau Busnes, Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Chymdeithas (BRASS)) a Dr Adam Corner (Y Grŵp Ymchwil i Ddeall Risg, Caerdydd).
Bwrsariaethau teithio o £40 ar gael i ymchwilwyr PhD nad yw Caerdydd yn ganolfan iddynt.
Gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, cofrestrwch eich diddordeb neu holwch Kate Walker (walkerkj1@caerdydd.ac.uk) i gael gwybod rhagor.
Yn Saesneg y cynhelir y digwyddiad hwn

