Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cyfleusterau

Darparu Cyfleusterau o’r Radd Flaenaf yn y Byd

Mae Coleg Graddedigion y Brifysgol yn ceisio gwella’r cyfleusterau cyfredol sydd ar gael i’r ymchwilwyr ôl-raddedig a chymryd rhan mewn cynlluniau ar gyfer cyfleusterau’r dyfodol.

Y Cyfleusterau Cyfredol

Mae’r Ganolfan i Raddedigion ar drydydd lawr Adeilad yr Undeb ym Mharc y Plas yn fan sydd wedi’i neilltuo i fyfyrwyr sy’n cael eu haddysgu a myfyrwyr ymchwil, ac mae’n cynnig lle i gymdeithasu ac i astudio, yn ogystal â bod yn ganolbwynt i’r gymuned o ôl-raddedigion yng Nghaerdydd.

Mae gan staff y Llyfrgell a’r Gwasanaethau Gwybodaeth nifer o gyfleusterau ac adnoddau yn unswydd ar gyfer ymchwilwyr; mae crynodeb o’r rhain i’w weld ar “I Ymchwilwyr”.  Mae sawl gweithdy’n cael ei gynnig drwy’r Rhaglen Sgiliau i alluogi ymchwilwyr i fanteisio’n llawn ar yr adnoddau hyn, ac mae canllawiau ar-lein ar gael hefyd.  Mae’n bosibl y bydd gan ymchwilwyr sy’n gweithio i ffwrdd o Gaerdydd ddiddordeb mewn Gwasanaethau i Ymchwilwyr o Hirbell.

Mae’r cyfleusterau ymchwil, yr adnoddau a’r systemau cymorth ymchwil diweddaraf sydd gan Gaerdydd yn galluogi’n hymchwilwyr i fynd ar ôl rhagoriaeth mewn ymchwil sylfaenol, gymhwysol ac ymarferol, a hynny mewn disgyblaethau unigol ac mewn gwaith amlddisgyblaeth ac yn creu cymuned academaidd gyffrous a bywiog.

Cyfleusterau at y Dyfodol

Mae’n dda gennyn ni gyhoeddi y bydd Hydref 2012 yn gweld lle i raddedigion yn cael ei agor ym Mharc Mynydd Bychan, ar yr ail lawr yn y Prif Adeilad. Bydd yno ddwy ystafell ar wahân, a fydd yn darparu ar gyfer angen Ôl-raddedigion i astudio a chymdeithasu ar gampws Mynydd Bychan.

Mae Prifysgol Caerdydd yn anelu at fod yn un o’r prif brifysgolion rhyngwladol yn yr 21ain Ganrif.  Un cam tuag at y nod hwnnw yw Gorwelion y Campws, sef rhaglen o brosiectau cyfalaf uchelgeisiol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys prosiectau datblygu newydd o bwys, gan gynnwys campws newydd sbon ar gyfer ymchwil y Brifysgol, o’r enw Parc Maendy.  Hen safle rheilffyrdd yw hwn, ac mae’r tir yn segur ers rhai blynyddoedd. Y bwriad bellach yw rhoi bywyd newydd iddo fel campws academaidd. Datblygiad graddol fydd y Parc o adeiladau ar gyfer ymchwilio ac addysgu ôl-raddedig a bydd yn amlygu rhagoriaeth academaidd y Brifysgol. Bydd pwyslais cryf ar waith amlddisgyblaeth, a lle i fentrau ymchwil newydd ddechrau a thyfu.  Bydd yn cymryd rhai blynyddoedd i orffen yr adeiladau i gyd.

Mae’r cyntaf wedi’i enwi’n Adeilad Hadyn Ellis ac mae’n arbennig o ddiddorol oherwydd, pan fydd yn agor yn 2013, bydd yn gartref newydd i Goleg Graddedigion y Brifysgol.