Y system cynrychiolwyr myfyrwyr o fewn y Brifysgol
Mae’r diagram hwn yn arddangos system pwyllgor y Brifysgol yn bwydo i fyny o’r gwaelod trwy bob Ysgol unigol (glas), i mewn i’r pedwar rhwydwaith polisi, sy’n trafod polisi’r Brifysgol, i fyny at uwch bwyllgorau sy’n cytuno ar bolisïau’r Brifysgol a phenderfyniadau strategol allweddol mae’r Brifysgol yn eu gwneud.
Dyma’r un diagram gyda’r holl flychau porffor yn dangos pa bwyllgorau sydd â chynrychiolydd myfyrwyr arnynt, naill ai trwy Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr neu swyddogion Undeb y Myfyrwyr.
