Sut mae’r system cynrychiolwyr yn gweithio?
Mae’r System Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn gweithio fel bod myfyrwyr yn gallu dweud wrth y Brifysgol beth sy’n bwysig iddyn nhw a rhoi adborth ar y profiad maen nhw wedi’i gael.
Er mwyn cynrychioli llais myfyrwyr yn effeithiol, mae lefelau gwahanol o weithgarwch. Mae’r diagram hwn yn dangos sut mae eich llais (wedi’i ddarlunio fel “corff myfyrwyr” ar y gwaelod) y gweithio’i ffordd o gwmpas y Brifysgol.
Gallwch weld sut mae’r system cynrychiolwyr myfyrwyr yn gweithio o fewn Ysgol, o fewn y Brifysgol ac o fewn Undeb y Myfyrwyr, neu ddod o hyd i fwy i wybodaeth am rôl cynrychiolydd.
Rydych yn ethol cynrychiolydd trwy bleidleisio drosto naill ai yn y dosbarth neu trwy neges e-bost, ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Y myfyriwr hwn wedyn fydd eich cyswllt ar gyfer y flwyddyn gyfan os oes gennych farn neu syniad ynglŷn â’ch cwrs neu eich profiad yn y Brifysgol. Gallwch gysylltu ag ef ar unrhyw adeg, ac os nad ydych yn gwybod pwy yw eich cynrychiolydd, yna gallwch chwilio am eich cynrychiolydd ar y dudalen we hon. Bydd y cynrychiolydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i staff ar farn myfyrwyr, felly os rydych eisiau i’ch llais gyfrif, gwnewch yn siwr bod eich cynrychiolydd yn ei glywed.
