Skip to content
Skip to navigation menu

Geirfa

Os hoffech ddiffiniad o unrhyw derm na nodir isod, gwnewch sylw.

Cadeirydd/Cadeirydd sy’n Fyfyriwr – y cynrychiolydd sy’n cadeirio Cyfarfod y Panel Myfyrwyr-Staff.

Canllaw Gweithredol – y canllaw a roddir i Ysgolion i esbonio sut i gynnal y system cynrychiolwyr myfyrwyr.

Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr – enw’r aelod o staff o bob Ysgol sydd â chyfrifoldeb dros gydlynu’r holl gynrychiolwyr yn eu Hysgol.

Cyflwyniad Ysgrifenedig Myfyrwyr – dogfen a ysgrifennir yn flynyddol gan Undeb y Myfyrwyr sy’n amlinellu meysydd sy’n allweddol i’r corff myfyrwyr.

Cyngor Academaidd – y cyfarfod sy’n cynnwys yr holl Uwch Gynrychiolwyr, wedi’i gadeirio gan y Swyddog Materion Academaidd a’r Brifysgol, a fynychir gan bob unigolyn perthnasol arall, ac a gynhelir tair gwaith y flwyddyn.

Cyngor y Brifysgol – corff llywodraethol uchaf strwythur y Brifysgol sy’n cynnwys staff uchaf y Brifysgol, dau aelod sy’n fyfyrwyr a detholiad o aelodau ‘lleyg’; rheiny sy’n annibynnol o’r Brifysgol.

Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr – yr enw a roddir i’r myfyrwyr sy’n cynrychioli eu cyfoedion i’w Hysgol a Phrifysgol.

Datganiad Blynyddol – dogfen wedi’i hysgrifennu gan y Swyddog Materion Academaidd a’r Brifysgol sy’n ystyried unrhyw bynciau ar draws y Brifysgol a nodwyd yn yr Adolygiadau Blynyddol.

Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Myfyrwyr – yr uwch swydd o fewn y Brifysgol sy’n cymryd cyfrifoldeb dros faterion sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu, a myfyrwyr.

Bwrdd yr Astudiaethau – pwyllgor o fewn pob Ysgol sydd fel arfer â chynrychiolydd o blith y myfyrwyr, ac yn trafod materion academaidd a gweinyddol yn ymwneud â phob rhaglen israddedig ac ôl-raddedig a ddysgir.

Ffurflen Adolygiad Blynyddol – y ffurflen mae’n rhaid i bob Cadeirydd sy’n fyfyriwr y Paneli Myfyrwyr-Staff ei llenwi ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr – gwobrau blynyddol a drefnir ac a gynhelir gan Undeb y Myfyrwyr i gydnabod y staff a’r cynrychiolwyr sy’n fyfyrwyr gorau trwy enwebiadau gan fyfyrwyr.

Llawlyfr Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr – canllaw a roddir i gynrychiolwyr i’w helpu i gyflawni eu rôl.

Materion Asesu – enw’r prosiect a ddatblygodd, ymhlith pethau eraill, y polisi adborth ar draws y Brifysgol.

Panel Myfyrwyr-Staff – y grŵp o staff a myfyrwyr sy’n gynrychiolwyr ar gyfer cwrs neu Ysgol benodol, sy’n cyfarfod i drafod profiad myfyrwyr.

Swyddog Materion Academaidd a’r Brifysgol – swyddog sydd wedi cael ei ethol i Undeb y Myfyrwyr sy’n cynorthwyo a hyfforddi’r cynrychiolwyr. Cysylltwch â nhw ar SwyddogAcademaidd@caerdydd.ac.uk.

System Cynrychiolwyr Myfyrwyr – yr enw a roddir i’r system lle mae myfyrwyr yn cynrychioli eu cyd fyfyrwyr i’r Ysgol ar faterion ynglŷn â phrofiad myfyrwyr.

Undeb y Myfyrwyr eu rôl yn System y Cynrychiolwyr Myfyrwyr – Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol i fonitro a rheoli system y cynrychiolwyr myfyrwyr.  Undeb y Myfyrwyr sy’n darparu’r hyfforddiant i’r cynrychiolwyr, sy’n trefnu ac yn cadeirio’r Cyngor Academaidd ac sy’n cynnal deialog barhaus gyda chynrychiolwyr y myfyrwyr er mwyn monitro’r materion a’r llwyddiannau sy’n codi drwy’r flwyddyn.

Uwch Gynrychiolydd – yr un cynrychiolydd israddedig ac ôl-raddedig sy’n mynychu’r Cyngor Academaidd ac sy’n nodi materion ar draws Ysgolion.

Yn ôl i Myfyrwyr
Yn ôl i Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr
Yn ôl i Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr