Beth mae cynrychiolwyr wedi gwneud i mi?
Dyma rai enghreifftiau o’r flwyddyn ddiwethaf o gynrychiolwyr yn gwneud gwahaniaeth i’ch profiad fel myfyriwr. Mae staff yn parchu ac yn gwrando ar gynrychiolwyr, felly dylech eu defnyddio os oes gennych broblem neu syniad:
Help ar-lein
Ar ôl cyfarfod â darlithwyr ac uwch aelodau o fy Ysgol, cynlluniais wasanaeth e-bost y gallai 6 aelod y tîm (ail a thrydedd flwyddyn) gael mynediad ato, a gallai myfyrwyr eraill anfon negeseuon e-bost i holi unrhyw gwestiynau a all fod ganddynt ynglŷn â bywyd fel myfyriwr SOCSI neu ynglŷn â Chaerdydd yn gyffredinol, neu os oedd angen help academaidd arnynt. Mae’r cyfeiriad e-bost wedi derbyn tua 200 o negeseuon e-bost ers mis Medi diwethaf, a oedd yn cynnwys rhai yn amrywio o gyngor ar ddewis modiwlau i ba werslyfrau sydd fwyaf perthnasol; i hyd yn oed pa siopau cludfwyd sy’n rhoi’r bargeinion gorau!
Hysbysebwyd y system trwy daflenni bach y cynlluniais a chawsant eu dosbarthu mewn darlithoedd ac yn yr Ysgol, trwy’r gwasanaeth e-bost, a hefyd trwy’r gwaith y gwnaethom yn ystod yr wythnos gofrestru. Yn ystod yr wythnos gofrestru, roedd y tîm yn bresennol, yn gwisgo crysau-t llachar (wedi’u cynllunio gennym ni) ac yn cynnig gweithdai ar fywyd yn SOCSI a sut mae’r Ysgol yn gweithio, teithiau o gwmpas y campws, helpu gyda sgyrsiau rhagarweiniol yr Ysgol, a helpu myfyrwyr newydd yn gyffredinol.
Pwysoli gwaith cwrs ac arholiadau
Llwyddais i gael y traddodiad SHARE wedi’i hen sefydlu o bwysoli arholiadau ac aseiniadau 60% i 40% yn ôl eu trefn wedi’i wrthdroi. Lleisiodd y myfyrwyr gwynion amrywiol am y system, trwy ‘floeddiadau’ o anfodlonrwydd mewn darlithoedd, ac yna cadarnhad ar bapur ynglŷn â hyn. Yna, lluniais grynhoad o’r ymateb a’i gyflwyno i’r Panel ac yna i’r Bwrdd Astudiaethau Agored, gan ddadlau bod y system yn ffafrio myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau ac o anfantais i’r myfyrwyr hynny mae’n well ganddynt aseiniadau papur a gwaith cwrs. Roedd angen perswadio’r cynllunwyr modiwlau unigol hyd nes bod digon o gefnogaeth i newid y pwysoli safonol, ond roedd yn llwyddiannus a newidiwyd y pwysoli i 50:50. Mae hyn yn golygu bod gan yr holl fyfyrwyr yr un cyfle i ragori heb ystyried pa fath o asesiad sy’n well ganddynt, ac felly’n gwella profiad y myfyrwyr trwy ganiatáu i bob myfyriwr lwyddo’n deg.
Ansawdd Arholiadau
Lluniais ddogfen ynglŷn â’r system arholi yn Ysgol Feddygol Caerdydd. Ar ôl siarad ag uwch fyfyrwyr, sylweddolais nad oedd neb yn barod i siarad am yr hyn a oedd yn amlwg yn achosi anfodlonrwydd. Cyflwynais ffeil gyda chanllawiau GMC a bron 200 o lythyron myfyrwyr. Ystyriodd y staff hyn, ac maen nhw wedi gwneud newidiadau mawr. Er fy mod i wedi rhoi hwb i ddechrau’r cynllun arholiadau newydd, ni fyddai wedi digwydd heb y myfyrwyr yn rhoi o’u hamser ac yn ymdrechu i anfon eu barn ataf.
Darlithoedd ar y Learning Central
Yn gynnar eleni, roeddwn yn treulio awr y dydd yn ymdrin â darlithoedd coll. Yn swyddogol, dylai darlithoedd fod ar y Learning Central cyn i’r ddarlith gael ei chynnal ar ein cwrs. Roedd gennym staff mewn awdurdod a oedd yn cytuno gyda’r arweiniad, ond nid oedd rhai ohonynt. Awgrymais y dylai nodiadau darlithoedd y llynedd fod ar gael yn llawn gydag ymwrthodiad yn nodi y gallai rhai diweddarach fod ychydig yn wahanol. Gwnaeth hyn ddatrys y broblem ar unwaith.
Adnoddau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig
Ar ôl trafod gyda thiwtoriaid ôl-raddedig, cynlluniais wefan i ganiatáu tiwtoriaid ôl-raddedig i lawrlwytho adnoddau ar gyfer addysgu (http://psychpgts.pbworks.com). Casglais ddogfennau, deunyddiau a dolenni oddi wrth diwtoriaid dros gyfnod o ddau fis, ac wedyn neilltuo manylion mewngofnodi ar gyfer pob defnyddiwr. Mae’r safle’n llawn amrywiaeth o ddeunyddiau ac mae nifer fawr o ddefnyddwyr yn defnyddio’r safle.
