Therapi Galwedigaethol (BSc)
- Maes pwnc: Therapi Galwedigaethol
- Côd UCAS: B921
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Rydyn ni yn yr ail safle yn y DU
Yn ôl y Complete University Guide 2025.
Wedi’i achredu’n broffesiynol
Cymeradwyir ein rhaglen gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac fe'i hachredu gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol.
Mae cyllid ar gael
Mae cyllid bwrsariaeth y GIG ar gael i fyfyrwyr y DU, gan gynnwys cymorth gyda ffioedd dysgu a chostau byw (mae'r amodau'n berthnasol).
Cyswllt clinigol cynnar
Byddwch chi’n treulio amser gwerthfawr ar leoliad, yn dysgu ac yn gweithio gyda chleifion go iawn ochr yn ochr â staff cefnogol a gwybodus.
Cyfleusterau dysgu rhagorol
Gan gynnwys swît efelychu gweithredol o’r enw "Y Fflat".
Nod ein rhaglen Therapi Galwedigaethol yw eich paratoi ar gyfer eich gyrfa ddewisol fel therapydd galwedigaethol. Ar ôl i chi gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i gyflwyno cais i gofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) yn ogystal â bod yn aelod proffesiynol o Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol (RCOT).
Gyda dros 50 mlynedd o brofiad mewn cyflwyno addysg therapi galwedigaethol, mae ein rhaglen dair blynedd, BSc (Anrh.) amser llawn, yn rhaglen ysgogol sy'n cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn astudio academaidd a dysgu ar sail ymarfer mewn lleoliad. Mae Ffederasiwn Therapyddion Galwedigaethol y Byd (WFOT) wedi cymeradwyo ein rhaglen, ac mae hyn yn golygu y bydd eich cymhwyster yn cael ei gydnabod mewn oddeutu 60 o wledydd ledled y byd, a fydd yn gwella eich cyfleoedd ar gyfer gweithio’n rhyngwladol.
Fel therapydd galwedigaethol cymwys, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â sbectrwm eang o bobl sy’n wynebu heriau a rhwystrau sy’n eu hatal nhw rhag ymgymryd â’r gweithgareddau (neu’r swyddi) sydd o bwys iddynt, ac yn eu grymuso. Gall hyn fod oherwydd bod ganddynt salwch, anabledd neu oherwydd eu bod wedi wynebu trawma neu amgylchiadau cymdeithasol gwael. Mae ein cwricwlwm yn pwysleisio pa mor ganolog yw galwedigaeth ym mywyd dynol, y berthynas rhwng galwedigaeth, iechyd a lles a phŵer galwedigaeth i drawsnewid bywydau unigolion, grwpiau a chymunedau.
Mae'r rhaglen yn meithrin ymrwymiad i ddysgu gydol oes ymhlith ei myfyrwyr a byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydol y tair blynedd, gan fyfyrio ar eich anghenion a'ch cyflawniadau dysgu unigol a'u cofnodi.
Cewch gefnogaeth academaidd gynhwysfawr gan diwtor personol profiadol a chewch eich addysgu a’ch cefnogi gan staff profiadol wrth rannu syniadau mewn grŵp myfyrwyr clos. Mae pwyslais ar astudiaeth academaidd hefyd yn sicrhau eich bod yn dechrau yn y proffesiwn fel ymarferydd sy'n gallu ymchwilio ac sydd â'r sgiliau a'r hyder i gyfrannu at y sylfaen dystiolaeth sy'n cefnogi a llywio ymarfer therapi galwedigaethol presennol ac yn y dyfodol.
Mae gennym gydberthnasau gwaith agos ag amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth ledled Cymru a byddwch yn elwa o leoliadau ymarfer a hwylusir gan addysgwyr therapi galwedigaethol profiadol a fydd yn helpu i'ch cefnogi i fod y therapydd galwedigaethol gorau posibl.
Bydd proffil amrywiol o brofiadau ar leoliadau a gynhelir dros dair blynedd y rhaglen yn eich galluogi i gyfuno damcaniaethau academaidd ag ymarfer therapi galwedigaethol go iawn, a chael cipolwg ar y cyfleoedd amrywiol o ran cyflogaeth sydd ar gael ar ôl i chi gymhwyso (e.e. mewn lleoliadau'r GIG, Awdurdodau Lleol, a lleoliadau'r sector preifat a'r trydydd sector). Dyna pam bod 95% o'n graddedigion therapi galwedigaethol mewn gwaith proffesiynol neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl cwblhau'r rhaglen (Unistats 2017/18).
Achrediadau
Maes pwnc: Therapi Galwedigaethol
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBB
Gofynion Ychwanegol
Wrth astudio'r cwrs, bydd yn ofynnol i chi ddangos eich bod yn bodloni gofynion Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) o safbwynt iechyd da a chymeriad, ac addasrwydd i ymarfer. Gallwch wneud hyn drwy ddarparu tystysgrif fanwl foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gael canlyniad boddhaol mewn prawf sgrinio iechyd cyn ymrestru ar y cwrs. Adran Iechyd Galwedigaethol y Brifysgol sy'n cynnal y prawf annibynnol hwn. Bydd angen cadw at unrhyw ofynion imiwneiddio a nodwyd. Cewch arweiniad llawn ynghylch hyn pan fyddwch yn cyflwyno cais.
Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
- Mae ein hystod graddau yn cynnwys ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydyn ni'n ystyried yn ofalus eich amgylchiadau astudio (eich gwybodaeth gyd-destunol) wrth wneud cais. Rhoddir cynnig i fyfyrwyr cymwys sy'n is na'r cynnig safonol (fel arfer pen canol i isaf yr ystod graddau a hysbysebir).
- Lle nad oes ystod graddau wedi'i hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol ar waith (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn cael ystyriaeth ychwanegol yn y broses ddethol.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd B / 6 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Derbynnir TGAU Iaith Saesneg C / 4 lle rydych chi'n cymryd cymwysterau ar lefel uwch sy'n cael eu dysgu trwy gyfrwng Saesneg fel Safon Uwch.
- pedwar TGAU ar radd C / 4 gan gynnwys Mathemateg, ac un wyddoniaeth (o Fioleg, Cemeg a Ffiseg), neu gymwysterau cyfatebol (pwnc a gradd).
Rhaid i chi hefyd ddarparu datganiad personol sy'n berthnasol i'r proffesiwn. Os ydych chi'n gwneud cais i fwy nag un rhaglen broffesiynol, dylech e-bostio datganiad personol pwrpasol ar gyfer pob rhaglen at admissions@cardiff.ac.uk ar yr un pryd â chyflwyno'ch cais trwy UCAS. Yn eich datganiad personol, dylech ddangos eich bod yn deall y proffesiwn, bod gennych fewnwelediad i'r cwrs ei hun, a disgrifio unrhyw brofiad gwaith perthnasol. Dim ond un datganiad personol y gellir ei gyflwyno ar gyfer pob rhaglen.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar radd benodol y cwrs a gofynion pwnc.
AMODAU CYFRIFIAD
Cyn cychwyn ar eich cwrs, bydd angen i chi lenwi holiadur iechyd galwedigaethol, mynychu unrhyw apwyntiadau dilynol a derbyn yr holl frechiadau angenrheidiol i ymgymryd â lleoliadau clinigol yn ddiogel.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Saesneg Iaith.
IELTS (academic)
O leiaf 7.0 yn gyffredinol, gydag o leiaf 6.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 100 yn gyffredinol, gydag o leiaf 22 ym mhob is-sgil.
PTE Academic
O leiaf 76 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: Heb ei dderbyn.
III: o leiaf Teilyngdod ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) a yw'ch cais yn llwyddiannus. Os ydych chi'n gwneud cais o rai gwledydd dramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da. Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr wahardd fod yn ymwybodol bod gwneud cais i'r cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Lefel T
D mewn Lefel T Iechyd, Gwyddor Gofal Iechyd, neu Wyddoniaeth.
Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU
International equivalencies are not accepted for this course. Please contact the International Office for information about entry requirements from your country.
Please view your country page for information on our entry requirements, funding opportunities and who our local advisors are.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Ni fyddwn yn gwneud cynnig heb gyfweld ymgeisydd yn gyntaf.
Mae’n bosib y bydd angen bod wedi cynnal pob cyfweliad ar gyfer y rhaglen, cyn y gellir rhyddhau cynigion.
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni'r gofynion sylfaenol ar Lefel 2 (TGAU fel arfer) a Lefel 3 (Lefel A fel arfer) er mwyn bod yn gymwys i'w hystyried ar gyfer cyfweliad. Os ydych chi'n bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol, bydd eich cais yn derbyn sgôr yn seiliedig ar eich datganiad personol. Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu rhestru yn ôl y sgôr hon, a bydd yr ymgeiswyr sydd ar y brig yn cael gwahoddiad i ddod i gyfweliad.
Efallai y bydd myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n astudio / ar ôl cwblhau rhai Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yn ymwneud â Gofal Iechyd yn gymwys i gael cyfweliad gwarantedig ar gais. Cysylltwch â'r tîm derbyniadau Gofal Iechyd am fanylion penodol: HCAREadmissions@caerdydd.ac.uk
Ein proses gyfweld
Mae'r cyfweliadau hyn yn ein helpu i benderfynu a ydych chi:
- yn gallu meddwl am ateb yn y fan a'r lle
- wedi meddwl am rai o'r materion sy'n bwysig i'r proffesiwn
- yn gallu gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol
- yn gallu cyfathrebu syniadau yn effeithiol.
Maent hefyd yn canolbwyntio ar archwilio'r rhinweddau a'r priodoleddau personol sy'n bwysig i ddatblygiad eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae'r cyfweliadau hyn yn ein galluogi i gwrdd â chi ac asesu gwybodaeth nad yw bob amser yn hawdd ei chael yn y broses ymgeisio – ni fwriedir iddynt brofi faint o wybodaeth flaenorol sydd gennych am y pwnc na'r proffesiwn.
Sylwch y gall cyfweliadau gael eu cynnal mewn amgylchedd ar-lein. Bydd cyfweliadau ar-lein yn parhau i asesu ymgeiswyr ar y sgiliau a'r priodoleddau a amlinellwyd uchod.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer y rhaglen hon. Mae'n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw'n ad-daladwy ar gyfer costau byw, ac mae ar gael i ymgeiswyr 'r DU. Mae manylion llawn, gan gynnwys gwybodaeth i ymgeiswyr o'r UE, ar gael ar ein tudalennau ynghylch cyllid GIG.
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Mae lleoliad GIG yn rhan angenrheidiol o'r cwrs hwn. Mae'r GIG yn trefnu lleoliadau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n gymwys i dalu ffioedd DU yn unig. Felly, nid yw'r cwrs hwn ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Costau ychwanegol
Chi fydd yn gyfrifol am dalu i gael Tystysgrif fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sy’n rhan ofynnol o’r broses gwneud cais. Yn ogystal, dylai ymgeiswyr wybod y gallai fod angen iddynt dalu costau teithio a llety mewn perthynas â chyfnodau gorfodol ar leoliad. Bydd myfyrwyr yn cael gwisg ar gyfer eu lleoliadau; ond, bydd angen i chi dalu am esgidiau priodol.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Nid oes angen llawer o gyfarpar arnoch i ddilyn y rhaglen, ond bydd angen i chi allu cymryd nodiadau a llunio gwaith i’w asesu a gwaith ffurfiannol gan fod hyn yn elfen hanfodol o’ch astudiaethau. Er bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn tueddu i ddefnyddio eu cyfrifiadur pen desg, gliniadur neu ddyfais llechen eu hunain, mae cyfrifiaduron ar gael ar y campws yn adeilad Tŷ De Dewi Sant a Llyfrgell Iechyd adeilad Cochrane. Yn ogystal, gall myfyrwyr ddewis prynu rhai llyfrau i gefnogi eu hastudiaethau. Nid yw hyn yn orfodol, ac mae’r holl adnoddau dysgu ar gael drwy’r llyfrgell, gan gynnwys cyfnodolion a llyfrau electronig.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rhaglen tair blynedd amser llawn yw hon. Mae pedwar modiwl craidd 30 credyd ym mhob blwyddyn academaidd (cyfanswm o 120 credyd), heblaw am y flwyddyn olaf sy'n cynnwys dau fodiwl 30 credyd, modiwl 20 credyd a modiwl 40 credyd. Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro er mwyn sicrhau cwricwlwm troellog, lle mae modiwlau'n adeiladu ar ei gilydd i sgaffaldio'r myfyrwyr sy'n dysgu. Bydd yn troelli drwy bob blwyddyn gan gynyddu dyfnder ac ystod y pynciau a ddysgir. Ym mhob blwyddyn academaidd, ceir lleoliad ymarfer a asesir. Mae’n rhaid i fyfyrwyr gwblhau 360 o gredydau’n llwyddiannus a llwyddo ym mhob un o’r lleoliadau ymarfer er mwyn ennill gradd BSc (Anrh.) Therapi Galwedigaethol a bod yn gymwys i wneud cais am gofrestriad proffesiynol i ymarfer fel therapydd galwedigaethol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen byddwch yn ymgymryd â'r pedwar modiwl craidd canlynol:
- Hanfodion Dysgu ac Ymarfer Ysgolheigaidd ym maes Therapi Galwedigaethol
- Sylfeini Therapi Galwedigaethol: Gwyddoniaeth ac Ymarfer
- Ystyried Galwedigaeth: Natur Perfformiad, Cyfranogiad a Tharfu
- Sgiliau Personol a Phroffesiynol ar gyfer Therapi Galwedigaethol Ymarfer I
Mae'r modiwlau wedi'u cynllunio i'ch galluogi i gaffael gwybodaeth sylfaenol gadarn a dealltwriaeth o therapi galwedigaethol er mwyn dechrau datblygu hyder yn eich hunaniaeth broffesiynol unigryw, eich rôl a'ch pwrpas fel therapydd galwedigaethol.
Byddwch yn dysgu am y cysyniadau athronyddol a damcaniaethol sy’n sail i therapi galwedigaethol ac yn astudio datblygiadau hanesyddol pwysig yn y proffesiwn, gan eu cysylltu ag ymarfer nawr ac yn y dyfodol. Bydd deall y berthynas rhwng galwedigaeth, iechyd a lles a natur perfformiad a chyfranogiad galwedigaethol yn hanfodol i'ch dysgu ac yn eich galluogi i feithrin gwerthfawrogiad gwybodus o effaith aflonyddwch galwedigaethol ar unigolion ar draws rhychwant oes a ffyrdd y gellir atal aflonyddwch neu ei leihau.
Byddwch yn datblygu eich sgiliau rhesymu proffesiynol a moesegol ac yn defnyddio sgiliau datrys problemau mewn perthynas ag asesu a chynllunio yn rhan o ymarfer nyrsio oedolion.
Mae dulliau addysgu a dysgu wedi'u cynllunio'n bwrpasol i'ch cefnogi chi i ddatblygu sgiliau proffesiynol craidd sy'n ymwneud â chydweithio (gan gynnwys gwerthfawrogi rôl a chyfraniad pobl eraill), dysgu gydol oes, ymarfer ar sail tystiolaeth a llythrennedd digidol. Caiff cyfleoedd i ddatblygu ymwybyddiaeth o’ch proffesiwn eich hun, y sectorau gwahanol y gallech weithio ynddynt a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n helpu taith y rhai o dan eich gofal, eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn gyntaf drwy addysg ryngbroffesiynol.
Byddwch yn gweithio mewn grŵp o fyfyrwyr o'ch proffesiwn eich hun i ddatblygu eich dealltwriaeth o rôl y therapydd galwedigaethol. Gan ddefnyddio technolegau digidol, byddwch hefyd yn datblygu math effeithiol o gyfathrebu gwybodaeth er mwyn cyfleu rôl graidd eich proffesiwn i eraill yn glir.
Penllanw'r flwyddyn academaidd hon yw lleoliad addysg 8 wythnos o hyd fydd yn caniatáu ichi ddefnyddio beth ydych wedi'i ddysgu mewn ymarfer gwirioneddol a dangos y safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg a ddisgwylir gan therapydd galwedigaethol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Hanfodion Dysgu ac Ymarfer Ysgolheigaidd o fewn Therapi Galwedigaethol | HC1229 | 30 Credydau |
Sylfeini Therapi Galwedigaethol: Gwyddoniaeth ac Ymarfer | HC1230 | 30 Credydau |
Archwilio Galwedigaeth: Natur Perfformiad, Cyfranogiad ac Aflonyddwch | HC1231 | 30 Credydau |
Sgiliau Personol a Phroffesiynol ar gyfer Ymarfer Therapi Galwedigaethol I | HC1232 | 30 Credydau |
Blwyddyn dau
Yn ystod ail flwyddyn y rhaglen, byddwch yn astudio'r pedwar modiwl craidd canlynol:
- Archwilio Dulliau Ymchwil ar gyfer Ymarfer sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth ym maes Therapi Galwedigaethol
- Ymyrraeth Therapi Galwedigaethol: Theori ac Effaith
- Galluogi Galwedigaethol er Budd Iechyd a Lles
- Sgiliau Personol a Phroffesiynol ar gyfer Therapi Galwedigaethol Ymarfer II
Byddwch yn parhau i ddatblygu’r wybodaeth graidd, y sgiliau a’r agweddau proffesiynol sydd eu hangen ar therapydd galwedigaethol ac yn cael eich cynorthwyo i fod yn gynyddol ymreolus fel dysgwr hunangyfeiriedig.
Bydd pwyslais ar theori a chymhwyso ymyrraeth therapi galwedigaethol, gan gynnwys dadansoddiad o ystod o ddulliau a thechnegau a ddefnyddir gan therapyddion galwedigaethol i fynd i'r afael ag anghenion galwedigaethol unigolion a grwpiau a'r rheini i atal aflonyddwch galwedigaethol yn yr arena gyhoeddus.
Gan adeiladu ar y sylfeini a osodwyd ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, byddwch yn edrych ar bwysigrwydd gweithio mewn tîm aml-broffesiynol effeithiol ac yn dadansoddi'r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau sy'n angenrheidiol i greu a chynnal arferion gweithio cydweithredol. Bydd addysg ryngbroffesiynol yn rhoi cyfleoedd i chi weithio gyda myfyrwyr o raglenni eraill o fewn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o waith tîm a chyfathrebu yn yr amgylchedd gofal neu iechyd amlddisgyblaethol.
Byddwch yn aelod o grŵp a gynrychiolir gan fyfyrwyr o dri proffesiwn gwahanol a, gan ddefnyddio dulliau dysgu ar sail ymholiadau, byddwch yn cydweithio i astudio sefyllfaoedd gwaith tîm go iawn sy’n adlewyrchu’r amgylchedd ymarfer.
Bydd ail flwyddyn y rhaglen yn rhoi trosolwg cynhwysfawr hefyd o ystod o fethodolegau ymchwil, sgiliau a thechnegau sy'n ofynnol i lywio dyluniad ymchwil fethodolegol gadarn mewn gwyddoniaeth alwedigaethol a therapi galwedigaethol.
Byddwch yn cymryd rhan mewn dulliau ymholi gweithredol, ac yn datblygu sgiliau myfyriol lefel uwch mewn perthynas â'ch datblygiad personol a phroffesiynol, gan barhau i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi eich dysgu. Mae lleoliad 10 wythnos sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth, ac sy'n dechrau ddiwedd semester yr Hydref, yn cynnig y cyfle gorau posibl ar gyfer integreiddio theori ac ymarfer yn ogystal â chydgrynhoi'r sgiliau a'r cymwyseddau proffesiynol a ddatblygwyd ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Archwilio dulliau ymchwil ar gyfer ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn therapi galwedigaethol | HC2229 | 30 Credydau |
Ymyrraeth Therapi Galwedigaethol: Theori ac Effaith | HC2230 | 30 Credydau |
Galluogi Galwedigaeth ar gyfer Iechyd a Lles | HC2231 | 30 Credydau |
Sgiliau Personol a Phroffesiynol ar gyfer Ymarfer Therapi Galwedigaethol II | HC2232 | 30 Credydau |
Blwyddyn tri
Yn ystod trydedd flwyddyn a blwyddyn olaf y rhaglen byddwch yn ymgymryd â'r pedwar modiwl craidd canlynol:
- Cymryd Rhan mewn Ymchwil: Ymchwilio i Iechyd, Lles a Galwedigaeth
- Arwain, Rheoli ac Arloesi ym maes Therapi Galwedigaethol
- Galluogi Galwedigaeth ar gyfer Cymunedau a Phoblogaethau
- Sgiliau Personol a Phroffesiynol ar gyfer Therapi Galwedigaethol Ymarfer III
Fel darpar therapydd galwedigaethol, cynlluniwyd y modiwlau hyn i’ch helpu i werthuso ymarfer therapi galwedigaethol yn feirniadol yn ogystal â’ch datblygiad personol a phroffesiynol eich hun a’ch cyflogadwyedd.
Byddwch yn astudio ac yn gwerthuso’r sbardunau gwleidyddol o fewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â gwaith partneriaeth amlbroffesiynol ac amlasiantaethol a datblygiad gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar alwedigaethau a gaiff eu llywio gan dystiolaeth. Gan adeiladu ar eich dealltwriaeth o botensial trawsnewidiol galwedigaeth ar gyfer unigolion a grwpiau, byddwch yn ymchwilio i broblemau mwy cymhleth ac yn gwerthuso effaith ymyriadau therapi galwedigaethol yn feirniadol ar gymunedau a phoblogaethau, gan gynnwys meysydd arloesol o ddatblygu gwasanaethau.
Bydd pwyslais ar ddatblygu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch defnydd o sgiliau rheoli, arwain ac entrepreneuraidd yn ogystal ag atgyfnerthu gwerth datblygiad proffesiynol parhaus a gallu digidol fel elfen hanfodol o’ch ymarfer yn y dyfodol.
Byddwch yn cymryd rhan amlwg mewn gweithgareddau ymchwil; gan adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd yn ail flwyddyn y rhaglen i ddylunio a chyflawni astudiaeth ar raddfa fach sy'n berthnasol yn broffesiynol.
Wrth gynnal ac atgyfnerthu'r wybodaeth a'r sgiliau a gafwyd trwy addysg ryngbroffesiynol ym mlynyddoedd un a dau y rhaglen, bydd y flwyddyn olaf hon yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu dealltwriaeth o faes diddordeb hunan-ddynodedig.
Byddwch yn ymgysylltu â myfyrwyr o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a thu hwnt, gan ddefnyddio ymagwedd feirniadol ddatblygedig i ddeall gwaith tîm effeithiol ar draws y proffesiynau a’r sectorau amrywiol y gallai therapydd galwedigaethol weithio ynddynt.
Mae eich lleoliad olaf yn digwydd yn ystod semester yr Hydref. Gyda phwyslais ar werthuso beirniadol, mae wedi'i gynllunio i atgyfnerthu'r gwerthoedd craidd, y credoau a'r wybodaeth fydd yn hanfodol i'ch gyrfa ym maes therapi galwedigaethol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cymryd rhan mewn Ymchwil: Ymchwilio i Iechyd, Lles a Galwedigaeth | HC3305 | 30 Credydau |
Arweinyddiaeth, Rheolaeth ac Arloesi mewn Therapi Galwedigaethol | HC3306 | 30 Credydau |
Galluogi galwedigaeth ar gyfer cymunedau a phoblogaethau | HC3307 | 20 Credydau |
Sgiliau Personol a Phroffesiynol ar gyfer Ymarfer Therapi Galwedigaethol III | HC3308 | 40 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Wrth ddewis astudio therapi galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd byddwch yn dilyn rhaglen sy'n gynhwysol, creadigol, trawsnewidiol a blaengar o ran ei dyluniad. Mae ein hathroniaeth addysgol yn adleisio therapi galwedigaethol yn yr ystyr ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r storfa gyfoethog o brofiad, sgiliau a gwybodaeth yr ydych chi fel unigolyn yn ei chyfrannu at yr amgylchedd dysgu. Bydd y rhaglen yn hwyluso eich datblygiad personol a phroffesiynol drwy ddarparu amgylchedd cydweithredol, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, ac sy'n annog hunan-gyfeiriad, yn hyrwyddo dysgu gydol oes ac sy'n meithrin meddwl yn greadigol ac yn feirniadol.
Cyflwynir y cwricwlwm trwy ddysgu yn seiliedig ar broblemau (PBL) ac ymchwiliad gwerthfawrogol (AI); dulliau arloesol o ddysgu, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n gyson â'r angen i hyrwyddo dysgu gweithredol, wedi'i gyfeirio at fyfyrwyr gyda ffocws a chymhwysiad yn y byd go iawn.
Yn ystod rhan helaeth o'r rhaglen, byddwch yn gweithio mewn grwpiau tiwtorial i nodi ac ymchwilio i faterion sy'n berthnasol i alwedigaeth a therapi galwedigaethol yn seiliedig ar ddeunydd sbardun wedi’i gynllunio’n bwrpasol sy'n ysgogi ac ysbrydoli dysgu. Mae dysgu cydweithredol yn yr amgylchedd academaidd yn annog datblygiad sgiliau cyfathrebu proffesiynol a gweithio mewn tîm ac felly'n sail i'r dysgu sy'n digwydd yn ystod lleoliad ymarfer ac yn ei wella. Caiff strategaethau dysgu wyneb yn wyneb traddodiadol fel darlithoedd, gweithdai a seminarau eu hategu gan gyfleoedd ar-lein rhyngweithiol ac adnoddau a gynlluniwyd i wella eich profiad dysgu cyffredinol a’ch galluogi i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r gallu sydd eu hangen ym maes ymarfer therapi galwedigaethol cyfoes.
Er bod y rhan fwyaf o waith addysgu sgiliau ymarferol yn digwydd o fewn elfennau lleoliad ymarfer y rhaglen, ceir pwyslais ar 'ddysgu trwy wneud' trwy gydol y cwricwlwm. Mae adnoddau amgylcheddol fel gweithgareddau ein hystafelloedd byw bob dydd yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu ac ymarfer sgiliau mewn amgylchedd cartref efelychiadol, tra bod gweithdai ymarferol e.e. codi a chario, sblintio, sgiliau cyfweld ac ati, yn cael eu hwyluso gan staff academaidd a darlithwyr sy'n ymweld sy'n therapyddion galwedigaethol gweithredol. Hefyd, cewch gyfleoedd gwerthfawr i ddysgu wrth ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr go iawn sy’n cyfrannu at y rhaglen fel arbenigwyr drwy brofiad.
Mae'r rhaglen hon yn cynnig elfennau o'r ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut y caf fy nghefnogi?
Byddwch yn cael tiwtor personol sy’n aelod o’r grŵp staff academaidd ac yn therapydd galwedigaethol cymwys. Cewch eich annog i drefnu cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol drwy gydol eich amser ar y rhaglen ac, yn ystod y cyfarfodydd hyn, gallwch fyfyrio ar eich cynnydd a'ch datblygiad cyffredinol, cael cefnogaeth fugeiliol ac arweiniad academaidd yn unol â'ch anghenion unigol. Bydd tiwtoriaid personol hefyd yn helpu i’ch cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth fel cyswllt anabledd myfyrwyr yr Ysgol a gwasanaethau ar draws y Brifysgol, gan gynnwys Cefnogi a Lles Myfyrwyr a’r Tîm Sgiliau Academaidd a Mentora (gweler Llawlyfr y Myfyrwyr am ragor o wybodaeth). Mae tiwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis cael cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gall arweinwyr modiwlau unigol, Rheolwr y Rhaglen a Phennaeth Proffesiynol Therapi Galwedigaethol gynnig cefnogaeth mewn perthynas â'ch profiad cyffredinol fel myfyriwr ar y rhaglen, gan gynnwys unrhyw adborth neu bryderon a allai fod gennych mewn perthynas ag ansawdd. Yn ail flwyddyn y rhaglen byddwch yn cael goruchwyliwr academaidd a fydd yn eich cefnogi wrth i chi ddylunio a chynnal prosiect ymchwil ar raddfa fach a chynhyrchu eich traethawd hir blwyddyn olaf.
Yn ystod cyfnodau o leoliad ymarfer cewch eich cefnogi gan addysgwr ymarfer penodedig sydd wedi cael arweiniad a/neu hyfforddiant ac achrediad ffurfiol (e.e. o dan gynllun APPLE Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol) mewn perthynas â hwyluso'r broses o ddysgu ac asesu myfyrwyr. Byddwch hefyd yn cael cyswllt penodedig gan y grŵp staff academaidd a fydd yn cynnig cefnogaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y lleoliad a bydd yn hwyluso adolygiad ffurfiol o'ch cynnydd hanner ffordd drwy'r broses.
Bydd tîm cymorth lleoliadau pwrpasol ar gael i chi, ynghyd â systemau a gweithdrefnau ffurfiol, er mwyn cefnogi eich dysgu a’ch cynnydd a mynd i’r afael ag unrhyw faterion neu broblemau a allai godi. Bydd y tîm lleoliadau yn ceisio dod o hyd i addysgwyr Cymraeg neu gyfleoedd dysgu ar leoliad dwyieithog ac unigolion cyswllt Cymraeg, o’r lleoliad academaidd ar gais.
Sut caf fy asesu?
Assessment of academic and professional competencies is essential in ensuring that you meet the regulatory standards and entry-level profile of an occupational therapist and that they are fit for practice. The curriculum incorporates a diverse and creative range of assessment strategies and methods which are reflective of an inclusive, learner-centred approach and aligned to the intended learning outcomes of the programme.
Each module within the programme incorporates formative assessment and feedback which does not contribute to progression or degree classification decisions but, rather, is designed to support your learning and to assist you in identifying your own strengths and areas for development. Examples of methods of formative assessment include reflective discussions and written pieces, group and individual presentations, quizzes, debate, simulated and practical tasks.
As part of your ongoing personal and professional development you will be encouraged to evaluate your own progress as well as that of your peers, becoming confident and competent in giving and receiving feedback. Throughout your time on the programme, you will also be supported and encouraged to engage in continuing professional development (CPD) and to record, evaluate and share this with others.
Feedback
Formative assessment and feedback prepares you for summative assessment which is formally marked and therefore contributes to progression or degree classification decisions. The goal of summative assessment is to indicate how well you have succeeded in meeting the intended learning outcomes of a module and the feedback provided will enable you to identify any areas for further development. Feedback on assessments will be timely, and will be provided to you within 20 working days of the submission deadline. Examples of summative assessment methods within the programme include forms of coursework, individual presentations and projects and a final-year dissertation.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i’ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o'r cysyniadau athronyddol a damcaniaethol sy'n sail i ymarfer therapi galwedigaethol ac sy'n ei llywio; yn bennaf, gwyddoniaeth alwedigaethol, natur alwedigaethol bodau dynol ac effaith galwedigaeth ar iechyd a lles.
- Cydnabyddiaeth gadarn o hanfodion anatomeg ddynol, ffisioleg, seicoleg a chymdeithaseg sy'n sail i berfformiad galwedigaethol a chyfranogiad ar draws y rhychwant oes, gan gynnwys natur ac ystyr aflonyddwch, ac sy'n effeithio arnynt.
- Gwerthfawrogiad beirniadol o gyfraniad unigryw'r proffesiwn sy'n canolbwyntio ar alwedigaeth mewn amrywiaeth o gyd-destunau ymarfer, i gynnwys meysydd, traddodiadol a newydd sy'n dod i'r amlwg, o ddarpariaeth gwasanaeth therapi galwedigaethol ar gyfer unigolion, grwpiau a chymunedau.
- Ymwybyddiaeth wybodus o ddimensiynau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol galwedigaeth ddynol a'u perthnasedd i ddarpariaeth gwasanaeth therapi galwedigaethol. Yn ogystal â dealltwriaeth o sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol fel systemau ymaddasol cymhleth.
- Dealltwriaeth fanwl o’r egwyddorion a’r gwerthoedd craidd sy’n sail i ymarfer cydweithredol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o rôl a chyfraniad gweithwyr proffesiynol eraill wrth sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar unigolion, yn cael eu darparu.
- Gwerthfawrogiad cadarn o safonau cyrff rheoleiddio a chyrff proffesiynol mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus, arweinyddiaeth, ymchwil a gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth fel sy'n berthnasol i'r gwaith o ddatblygu, cyflwyno a gwerthuso gwasanaethau therapi galwedigaethol.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Hyfedredd wrth ddewis, dadansoddi, cyfuno a gwerthuso’n feirniadol wybodaeth o ystod eang o ffynonellau, gan ddod i gasgliadau rhesymegol wrth wneud penderfyniadau cadarn a llunio barn broffesiynol.
- Datrys problemau mewn ffordd greadigol a gwerthfawrogol yn y lleoliad academaidd ac ymarferol, gan gynnwys meddwl yn greadigol a datblygu atebion a syniadau arloesol.
- Cymhwysedd wrth gyfrannu at sylfaen wybodaeth broffesiynol drwy ddewis, cyfiawnhau a chymhwyso cynlluniau a dulliau ymchwil moesegol a nodi strategaethau rhannu gwybodaeth effeithiol.
- Sgiliau rhesymu proffesiynol gwell, gan gynnwys y gallu i gymryd rhan mewn dadl gref mewn perthynas â pherthnasedd a gwerth galwedigaeth a therapi galwedigaethol.
- Defnydd effeithiol o fyfyrio ac ymatblygaeth (reflexivity) fel offer i'n galluogi i adolygu gwerthoedd ac arferion sefydliadol personol, proffesiynol ac ehangach yn feirniadol, a'u trawsnewid.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol sefydledig yn unol â disgwyliadau corff proffesiynol, gan gynnwys y 'Cod moeseg ac ymddygiad proffesiynol' (COT, 2015), 'Safonau proffesiynol ar gyfer ymarfer therapi galwedigaethol' (COT, 2017) a 'Canllawiau ar ymddygiad a moeseg i fyfyrwyr' (HCPC, 2016).
- Arferion cydweithio effeithiol a phriodol â defnyddwyr gwasanaethau, aelodau tîm eraill a phartneriaid, gan ddefnyddio dulliau galluogi, grymuso ac ymgynghori a gwerthfawrogi profiadau a safbwyntiau amrywiol.
- Cymhwysedd mewn cyflogi ystod eang o ddulliau a thechnegau asesu safonol ac ansafonol i nodi anghenion galwedigaethol ac wrth ddadansoddi tasgau, gweithgareddau a galwedigaethau fel sgil proffesiynol craidd.
- Sgiliau rhesymu proffesiynol cadarn wrth nodi a chynllunio ymyriadau priodol, wedi'u seilio ar dystiolaeth ar gyfer hwyluso perfformiad a chyfranogiad galwedigaethol, gan barchu hawliau, anghenion a dewisiadau'r unigolion a/neu'r grwpiau dan sylw.
- Hyblygrwydd wrth addasu cynlluniau yn unol ag anghenion a blaenoriaethau newidiol defnyddwyr a gwasanaethau, gan fyfyrio ar therapi galwedigaethol a gwerthuso ei effaith, a nodi dulliau priodol i fesur canlyniadau galwedigaethol.
- Adolygiad beirniadol a chymhwyso dulliau a strategaethau ar gyfer gwerthuso gwasanaethau a gwella ansawdd o fewn therapi galwedigaethol, gan syntheseiddio athroniaeth broffesiynol i gyfiawnhau cyfranogiad defnyddwyr a gofalwyr wrth sicrhau newid ystyrlon.
- Blaenoriaethu a rheoli amser yn effeithiol, gan weithio yn unol â’r adnoddau sydd ar gael drwy gydol y broses datrys problemau a dangos arweinyddiaeth, cyfrifoldeb ac atebolrwydd mewn perthynas â rheoli a datblygu eich hun ac eraill.
- Dull gwerthuso beirniadol tuag at yr amgylchedd gwleidyddol-gymdeithasol wrth iddo effeithio ar iechyd, lles a galwedigaeth yng nghyd-destun yr ymarfer, gan ddadansoddi deddfwriaeth a pholisïau lleol, cenedlaethol a byd-eang perthnasol i lywio penderfyniadau a gweithredoedd sydd wedi'u rhesymu'n broffesiynol.
- Cadw cofnodion yn gywir, gan gynnwys cymhwysedd i gynhyrchu ac adolygu amrywiaeth o ddogfennau a gohebiaethau sy'n gysylltiedig ag ymarfer therapi galwedigaethol mewn cyd-destun penodol i sicrhau eu bod yn cyfleu ac yn cyfiawnhau gweithredoedd proffesiynol a chanlyniadau ymyriadau yn effeithiol.
- Sgiliau eiriolaeth a chynghori i lywio polisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys dull rhagweithiol o hyrwyddo ac amddiffyn iechyd a lles unigolion, grwpiau a chymunedau ac atal salwch.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dull creadigol ac arloesol o ddatrys problemau yn yr amgylchedd academaidd ac ymarferol, gan gynnwys cymhwyso menter ac entrepreneuriaeth yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol.
- Ymgysylltiad gweithredol â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus a ategir gan waith myfyrio beirniadol ac ymrwymiad i ddysgu hunangyfeiriedig gydol oes.
- Sgiliau cyfathrebu gwell yn yr amgylchedd academaidd ac ymarferol i gydweithio ag eraill ar draws amrywiaeth o sectorau, meithrin perthnasoedd therapiwtig a phroffesiynol a mynegi galluoedd personol a phroffesiynol yn effeithiol.
- Hunanreolaeth effeithiol a gallu datblygedig i addysgu, mentora ac ysgogi eraill, gan ddefnyddio sgiliau arwain a rheoli sylfaenol wrth nodi dulliau a strategaethau ar gyfer gwella ansawdd.
- Ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau digidol yn effeithiol ac yn gyfrifol er mwyn cyfathrebu a chydweithio ag eraill mewn perthynas ag adfer, creu a gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol.
- Cymhwyso credoau a gwerthoedd proffesiynol craidd therapi galwedigaethol gan eu bod yn cyd-fynd â'r egwyddorion cynaliadwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol ac yn cyfrannu at ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol sy'n foesegol gyfrifol.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Mae opsiynau cyflogadwyedd rhagorol ar gyfer y rhai sy'n dilyn gyrfa ym maes therapi galwedigaethol, a 96% oedd y sgôr a roddwyd i ragolygon graddedigion therapi galwedigaethol Prifysgol Caerdydd yn Complete University Guide 2019.
Dyna pam mae 95%* o'n graddedigion therapi galwedigaethol mewn gwaith proffesiynol neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl cwblhau'r rhaglen (Unistats 2018).
Yn ogystal â meysydd ymarfer traddodiadol sefydledig mewn sectorau statudol (darpariaeth y GIG ac awdurdodau lleol), mae cyfraniad unigryw therapyddion galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar alwedigaeth yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi fwyfwy mewn sefydliadau cyhoeddus fel carchardai ac ysgolion, sefydliadau sector preifat fel cartrefi preswyl. a chymdeithasau tai, yn ogystal â sefydliadau'r trydydd sector fel elusennau a mentrau cymdeithasol.
Bydd y rhaglen astudio hon yn eich rhoi dealltwriaeth gadarn ichi o dirwedd newidiol iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol ehangach. Bydd yn cefnogi eich datblygiad fel therapydd galwedigaethol creadigol, deinamig ac arloesol ac wrth arddel y sgiliau arwain y bydd eu hangen arnoch i lunio gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol. Fel dewis amgen i chwilio am swydd, gallech ddewis ymgymryd ag astudiaeth lefel uwch (e.e. gradd meistr neu PhD) ar ôl cwblhau’r rhaglen.
Gyrfaoedd graddedigion
- Therapydd galwedigaethol
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.