Gwaith Cymdeithasol (MA)
- Hyd: 2 flynedd
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Astudiwch theori a sgiliau ymarferol gwaith cymdeithasol, a chael yr hyfforddiant sydd ei angen i gymhwyso a chofrestru i ddod yn weithiwr cymdeithasol yng Nghymru a’r DU yn ehangach.
Rhaglen wedi'i harwain gan brofiad bywyd
Mae ein cwrs wedi’i gynllunio gennym ni ac wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, ein partneriaid mewn awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru.
Lleoliadau gwaith myfyrwyr
Rydyn ni’n gweithio gyda 9 awdurdod lleol yn ne Cymru i gynnig lleoliadau gwaith o ansawdd uchel i’n myfyrwyr gyda chefnogaeth dda.
Cydnabyddiaeth ryngwladol
Mae gan ein tîm addysgu ddegawdau o brofiad o ymarfer ac ymchwilio mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys dau o'r 100 o academyddion gorau ym maes gwaith cymdeithasol yn y byd, a chyn-Gomisiynydd Plant Cymru.
Argaeledd cymorth ariannol
Yn amodol ar feini prawf cymhwysedd, mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gymwys i gael bwrsariaeth gan Gofal Cymdeithasol Cymru (yn 2024/25, roedd y fwrsariaeth yn werth £25,430). Gall cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd hefyd wneud cais am ostyngiad i gyn-fyfyrwyr o £3,000.
Ein henw da
Rydyn ni’n un o brifysgolion mwyaf blaenllaw y DU o ran addysgu ac ymchwil, gyda lle yn yr 20 uchaf am ansawdd ein hymchwil yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021.
Ein lleoliad
Cewch hyd i ni yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn Adeilad Morgannwg. Mae hyn yn golygu ein bod ni o fewn pellter cerdded i ganol dinas Caerdydd a chysylltiadau trafnidiaeth lleol.
Mae ein cwrs gradd MA 2 flynedd mewn Gwaith Cymdeithasol wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru, felly pan fyddwch chi’n graddio, byddwch chi’n gymhwyso’n weithiwr cymdeithasol.
Byddwch chi’n meithrin dealltwriaeth fanwl o foeseg a gwerthoedd gwaith cymdeithasol, sgiliau ymarferol gwaith cymdeithasol, ac ymarfer beirniadol mewn perthynas â’r gyfraith yn ymwneud â phlant, teuluoedd a gofal oedolion, a’r damcaniaethau a’r safbwyntiau allweddol sy’n sail i bolisi ac arferion gwaith cymdeithasol.
Gyda ni, byddwch chi’n meithrin eich sgiliau ymchwil beirniadol a dadansoddol ac yn eu mireinio mewn perthynas ag arferion a pholisi gwaith cymdeithasol ac yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol.
Byddwch chi’n cymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu ac yn datblygu eich sgiliau yn y gweithle a'ch rhwydweithiau proffesiynol drwy gwblhau tri Lleoliad Dysgu Ymarfer, sy'n cyfateb i 1400 awr. Byddan nhw’n cael eu cynnal gan un o'r naw awdurdod lleol yng Nghymru yr ydyn ni’n cydweithio â nhw. Bydd yr hyfforddiant ymarferol yn caniatáu i chi gymhwyso eich dysgu damcaniaethol at sefyllfaoedd go iawn, gan weithio gyda phobl amrywiol sy’n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr.
O sgiliau cyfathrebu a dyletswyddau cyfreithiol, i wneud penderfyniadau proffesiynol a chael dealltwriaeth o ffactorau economaidd-gymdeithasol, bydd ein rhaglen yn eich paratoi ar gyfer gwaith cymdeithasol amser llawn.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Cynhelir ein graddau gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ag enw da o ran dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar draws y byd.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rhaglen hon, bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei symud ymlaen os na ddarperir y wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda’ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
1. Copi o’ch tystysgrif gradd a thrawsgrifiadau sy’n dangos eich bod wedi ennill gradd anrhydedd 2:2 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn y pen draw, anfonwch unrhyw drawsgrifiadau interim neu dystysgrifau dros dro.
2. Datganiad personol, nad yw’n fwy na 4,000 o nodau o hyd, lle byddwch yn ateb y tri chwestiwn canlynol:
a. Beth yw eich cymhellion dros wneud cais i astudio gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd?
b. Beth yw eich dealltwriaeth o’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol? Ar gael yma.
c. Pa brofiad sydd gennych o ofal cymdeithasol (personol, proffesiynol neu gyfuniad) a beth ydych chi wedi’i ddysgu o’r profiad hwn am y gwerthoedd a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn weithiwr cymdeithasol? (Sylwch, nid oes angen i chi gael isafswm nifer o oriau o brofiad, er y bydd y profiad mwyaf diweddar yn fwy tebygol o fod yn ddefnyddiol ar gyfer eich cais.)
3. Un geirda academaidd neu broffesiynol/cyflogwr, a gwblhawyd o fewn y 6 mis diwethaf, sy'n nodi eich addasrwydd i fod yn fyfyriwr gwaith cymdeithasol. Sicrhewch fod y geirda wedi’i arwyddo, wedi’i ddyddio, ac ar bapur penodedig.
4. Tystiolaeth addas o allu yn y Saesneg sy’n cyfateb i IELTS gydag 7.5 yn gyffredinol ac o leiaf 6.5 ym mhob is-sgil. Nodwch ddyddiad eich prawf os yw’r cymhwyster hwn ar ddod.
Os nad oes gennych radd, gellir ystyried eich cais ar sail profiad proffesiynol helaeth ym maes gofal cymdeithasol, fel y gwelir yn eich datganiad personol a’ch geirda. Os yw hyn yn berthnasol i chi, bydd eich cais yn cael ei roi ar restr aros ac os oes lleoedd ar ôl ar y cwrs, efallai y cewch wahoddiad i gyfweliad yn yr haf.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, mae ceisiadau’n cau ddiwedd mis Gorffennaf ond gallent gau’n gynt os bydd yr holl leoedd yn llawn.
Y broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os byddwch yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad. Er mwyn eich helpu i baratoi, byddwch yn cael copi o’r cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, ac os bydd lleoedd ar gael o hyd, byddwch yn derbyn cynnig.
Amodau cofrestru
Os byddwch yn llwyddiannus o ran cael cynnig, bydd eich cofrestriad yn amodol ar gyflawni'r amodau canlynol:
- Gwirio Cefndir Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Estynedig gyda gwiriadau rhestr ar gyfer Oedolion a Phlant. Rhaid i’r ymgeisydd/myfyriwr dalu’r gost o wneud y gwiriad DBS.
- I ymgeiswyr rhyngwladol efallai y bydd angen sicrhau llythyrau ymddygiad da, neu gyfatebol, yn unol â chanllawiau/gofynion y Brifysgol, Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Swyddfa Gartref. Rhaid i’r ymgeisydd/myfyriwr dalu cost unrhyw wiriadau cefndir.
- Cadarnhad o’ch Ffitrwydd-i-Ymarfer (FTP), lle bo’n briodol.
- Cadarnhad o’ch Ffitrwydd-i-Astudi (FTS) gan Wasanaeth Iechyd Galwedigaethol (OH) Prifysgol Caerdydd, lle bo’n briodol.
- Ar ddechrau'r rhaglen, cofrestru llwyddiannus gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Myfyriwr Gwaith Cymdeithasol.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) os yw eich cais yn llwyddiannus. Os ydych yn gwneud cais o rai gwledydd tramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da. Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, nodir hyn yn y siec a gall effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr wahardd fod yn ymwybodol bod gwneud cais i'r cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.
Strwythur y cwrs
Mae’r MA mewn Gwaith Cymdeithasol yn rhaglen ddwy flynedd sy’n academaidd ac yn ymarferol. Byddwch yn cwblhau o leiaf 200 diwrnod o ddysgu ymarfer ar draws y ddwy flynedd. Mae hanner y rhaglen yn cynnwys ymarfer dan oruchwyliaeth mewn asiantaethau gwasanaethau cymdeithasol, lle bydd gennych gyfle i ddysgu drwy arsylwi, ymarfer, a pherfformio.
Cynhelir y lleoliadau gwaith cymdeithasol yn awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg
Bydd un Awdurdod Lleol yn cael ei ddewis i’ch cynnal yn ystod eich astudiaethau. Mae’n bosibl y bydd eich hanes cyflogaeth neu’ch amgylchiadau personol yn cael eu hystyried yn y broses hon, ond ni allwn warantu hynny.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn enghraifft o'r cwricwlwm nodweddiadol. Bydd modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi fis cyn i'ch rhaglen ddechrau.
Blwyddyn un
Mae hon yn rhaglen amser llawn, ddwy flynedd o hyd, sy'n arwain at MA a chymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol.
Byddwch yn treulio 100 diwrnod ar leoliadau gwaith ym mlwyddyn un.
Blwyddyn dau
Byddwch yn treulio 100 diwrnod arall ar leoliadau gwaith ym mlwyddyn dau. Byddwch yn dewis llwybr arbenigol (oedolion neu blant a theuluoedd) ac yn cwblhau traethawd hir.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Gweithio gydag unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau | SIT511 | 20 credydau |
Gweithio mewn ac ar draws sefydliadau | SIT512 | 20 credydau |
Ymarfer Gwaith Cymdeithasol | SIT513 | 20 credydau |
Traethawd hir | SIT514 | 60 credydau |
Lleoliad Dysgu Ymarfer III | SIT515 | 1 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Byddwch yn cael eich addysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ymagweddau dysgu ac addysgu a thrwy gymysgedd o sesiynau grŵp mawr a bach. Mae’r rhain yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gwaith grŵp, cyflwyniadau gan fyfyrwyr, a chwarae rôl. Yn ogystal, byddwch yn cyflawni astudiaethau annibynnol ac o dan gyfarwyddyd, ac mae rhestrau darllen ac adnoddau ar-lein ar gael ar gyfer y rhain drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir (Dysgu Canolog).
Sut y caf fy asesu?
Ein nod yw rhoi asesiadau i chi a fydd yn adlewyrchu sefyllfaoedd y byd go iawn, gan roi arweiniad i chi fod yn agored a chroesawu adborth a dysgu sut i roi adborth mewn ffordd sy’n gefnogol ac yn adeiladol.
Bydd sefyllfaoedd achos yn cael eu defnyddio er mwyn cyflwyno enghreifftiau ymarferol go iawn i chi, ac i ysgogi gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn ystod lleoliadau ac ar ôl cymhwyso. Bydd asesiadau’n meithrin llythrennedd ac yn defnyddio deilliannau dysgu a meini prawf i lywio’r gwaith o baratoi, hunanasesu a gwerthuso eich gwaith.
Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar bob aseiniad a phortffolio, gan gynnwys blaenborth i gefnogi dysgu a datblygu, a bydd eich holl farciau ac adborth yn ystyried y meini prawf marcio perthnasol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Yn ystod y ddwy flynedd o astudio, byddwch yn cael cymorth bugeiliol penodol drwy’r canlynol:
- tiwtor personol dynodedig, sy’n cadw trosolwg o’ch profiadau addysgol a’ch cynnydd academaidd drwy gydol eich dwy flynedd o astudio;
- goruchwyliwr traethawd hir dynodedig; ac
- Addysgwr Ymarfer ar gyfer pob un o’ch Lleoliadau Dysgu Ymarfer. Gweithiwr Cymdeithasol profiadol yw’r Addysgwr Ymarfer, sy’n arsylwi eich ymarfer, yn rhoi goruchwyliaeth broffesiynol i chi, ac yn eich cynghori ar baratoi eich portffolio tystiolaeth.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd modd i chi ddangos y wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar weithwyr cymdeithasol cymwysedig.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,450 | Dim |
Blwyddyn dau | £9,450 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £23,700 | £2,500 |
Blwyddyn dau | £23,700 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
You will have to fund your Disclosure and Barring Service check.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Na.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Ar ôl i chi gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol ac yn gallu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, yn ogystal â chyrff cyfatebol ledled y DU. Mae hyn yn eich galluogi i gael swydd mewn ystod o leoliadau gwaith cymdeithasol. Mae gennym gyfradd cyflogaeth uchel iawn ar gyfer ein myfyrwyr.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch am wybodaeth am ein dyddiadau sydd i ddod.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gwaith cymdeithasol, Gwyddorau cymdeithasol
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.