
Yn ôl Tracey Williams, perchennog asiantaeth recriwtio Job Trac Cymru ac Ymgynghorydd Adnoddau Dynol i gwmni teledu Avanti: “Mae’r gystadleuaeth am swyddi yn gallu bod yn anodd iawn ac mae sgiliau iaith Gymraeg yn gallu bod yn rhywbeth gall ymgeisydd gynnig yn ychwanegol i ymgeiswyr eraill. Hefyd, mae yna rai swyddi sydd yn gofyn am y Gymraeg fel sgil hanfodol.”
Felly os ydych yn edrych am waith, defnyddiwch eich iaith!
Gwasanaethau Gyrfaoedd i Siaradwyr Cymraeg
Mae croeso i chi wneud defnydd o’r holl wasanaethau gyrfaoedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ogystal, mae’r gwasanaethau a’r adnoddau canlynol ar gael yn benodol i siaradwyr Cymraeg:
Gwefannau Swyddi i Siaradwyr Cymraeg
Yn ogystal, mae swyddi gwag yn cael eu hysbysebu yn y cylchgrawn Golwg Manteisiwch felly ar y cyfle i fod yn gwbl ddwyieithog yn y byd gwaith. Gall ond cryfhau eich safle mewn marchnad swyddi gystadleuol.
Profion cymhwyster/seicometreg cyfrwng Cymraeg
Mae Talent Q wedi cysylltu ag Adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn arbrawf cyfrwng Cymraeg o’u hasesiadau seicometreg ar-lein, arloesol. Mae’r asesiadau’n edrych ar gymwyseddau, galluoedd a phersonoliaeth unigolion mewn perthynas â gwaith.
Cymryd rhan
Mae’n rhaid i gyfranogwyr allu siarad Cymraeg yn rhugl. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, neu os ydych yn adnabod rhywun sydd â diddordeb, cliciwch ar y dolenni isod er mwyn cofrestru ar gyfer yr asesiadau arbrofol:
Holiadur dimensiynau personoliaeth a phrofion elfennau gallu: https://login.talentqgroup.com/Login/SelfService/WPZRUBGAEP
Holiadur sgrinio agweddau seiliedig ar gymhwysedd: https://login.talentqgroup.com/Login/SelfService/VVBLLYZSYJ
Eich gwobr am gymryd rhan
Bydd pob cyfranogwr sy’n cwblhau’r Dimensiynau a/neu’r Elfennau yn derbyn adroddiad adborth ymgeisydd yn rhad ac am ddim. Yn ogystal, bydd y 100 cyfranogwr cyntaf i gwblhau’r asesiadau’n cael taleb iTunes gwerth £10.
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arbrawf, cysylltwch â Talent Q ar trials@talentqgroup.com.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am asesiadau Talent Q, ewch i wefan cymorth ymgeiswyr Talent Q: www.trytalentq.com.